Pynciau: Morgrug trist, Blinder, Tom a Jerry, Pterosawr
Ar ôl dychwelyd adref o noson olaf “hen” Theatr Gwynedd, bu bron imi ddechrau crio am yr eildro wrth ddarllen am adroddiad yn The American Naturalist. Sôn oedd yr awduron am ymddygiad morgrug o Frasil o’r enw Forelius pusillus. Bob nos maent yn mynd i glwydo i’w nyth ac yna’n cuddio’r fynedfa rhag gelynion posibl trwy ei gorchuddio â thywod. Y broblem yw – pwy sy’n gwneud y gwaith o osod y tywod yn ei le – o’r tu allan? Yr ateb yw bod hyd at wyth o’r pryfed bach yn ymgymryd â’r gwaith bob nos ac yna’n crwydro i ffwrdd i farw. Dyma’r tro cyntaf y darganfuwyd y fath ymddygiad hunanaberthol heb fygythiad uniongyrchol ym myd natur. Tybed pwy a ddyry’r tywod dros ddrysau’r Theatr?
Ond os yw’r syniad yn eich gwneud yn flin, mae’n debyg mai rhan o’r rheswm yw cynnydd yn lefelau’r hormon cortisol yn eich gwaed. Yn ddiweddar, bu gwyddonwyr o Gaergrawnt yn astudio’r cynnydd hwn mewn grŵp o ddynion ifanc a oedd yn chwarae gemau fideo gamblo llawn stres a rhwystredigaeth. Yn y rhan fwyaf o’r dynion cynyddodd lefel yr hormon. Ond mewn un grŵp ohonynt nid oedd newid o’r lefel disgwyliedig yn absenoldeb stres. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys dynion a oedd eisoes yn dioddef o broblemau ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrais a chreulondeb. Yn y rhan fwyaf ohonom, mae cortisol yn ein cadw mewn “trefn” wrth gynhyrfu – ond yn y grŵp hwn mae’r gyfundrefn hwn yn methu. Gobeithir y bydd modd datblygu cyffuriau neu driniaethau fydd yn cynyddu lefel yr hormon “stres” yma.
Tybed a fyddai’r un driniaeth o gymorth i’r hen gwrcath yna, Tom, wrth iddo ddioddef castiau Jerry? Yn eu hymrafael, fel arfer mae ymddygiad Jerry yn eithaf “cul”. Yn ddiweddar, mewn cyfres o arbrofion a fyddai’n fwy gweddus i Itchy a Scratchy, darganfuwyd peth o’r rheswm. Dadansoddwyd meinwe ymennydd llygod mawr a oedd newydd glywed oglau gwahanol gathod. Pan oedd y llygoden yn gyfarwydd â chath arbennig, nid oedd llawer o newidiadau cemegol i’w gweld yn yr ymennydd – ond wrth synhwyro arogl cath anghyfarwydd, roedd y newidiadau yn sylweddol. Roedd tystiolaeth eisoes y byddai llygod yn ceisio dianc rhag cath newydd mewn modd llawer mwy egnïol. Dyma’r tro cyntaf i’r fath berthynas ar lefel yr unigolyn ymddangos ym myd anifeiliaid ysglyfaethus.
Ers dyddiau’r Athro Challenger, mae ffilmiau megis Jurassic Park a Walking with Dinosaurs yn hoff o ddangos math dramatig o anifeiliaid ysglyfaethus – y Pterosawriaid enfawr hedegog. Bellach mae sŵolegydd o Brifysgol Tokyo wedi cwestiynu dilysrwydd y syniad. Gosododd offer ar gefnau nifer o’r adar mwyaf sy’n bodoli heddiw er mwyn gweld sut oeddynt yn hedfan. Yr Albatros Crwydrol yw’r aderyn hedegog mwyaf – sy’n mordwyo’r awyr uwchben y cefnforoedd. Er eu bod yn wych am “gleidio’n ddiymdrech, o bryd i’w gilydd mae’n rhaid iddynt ddisgyn i’r ddaear – ac yna ddefnyddio eu cyhyrau i esgyn trachefn. Gyda’i fesuriadau, mae’r Athro Sato yn dangos y byddai’n amhosibl i aderyn mwy na 40 cilogram (tua 90 pwys) wneud hyn. O ystyried anhawster ychwanegol tywydd drwg mae Sato yn dadlau mai hyn sy’n cyfyngu’r adar hedegog mwyaf yma i bwysau o lai na ryw 22 cilogram. Er mwyn medru cymharu ag adenydd 3.3 metr o lydan yr Albatros, roedd gan y Pterosawr adenydd yn ymestyn 15 metr, a chorff yn pwyso hyd at chwarter tunnell (250 cilogram). Mae mesuriadau bioffisegol Sato yn codi amheuaeth fawr a fedrai adar mawr o’r fath esgyn i’r awyr mewn unrhyw ffordd debyg i adar heddiw.
Nid yw’r firws HIV sy’n gyfrifol am gyflwr AIDS mor hen â’r Pterosawr, a oedd yn ceisio (?) hedfan 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ond mae’n ymddangos ei fod yn sylweddol hŷn nag y credwyd. Morwr o Norwy a fu farw o AIDS (ynghyd â’i wraig a’i ferch) yn 1976 oedd y cyntaf y gwyddom iddo ddioddef o’r hyn sydd bellach yn bandemig byd eang. Yn 1983 dangosodd Luc Montagnier a Françoise Barré-Sinoussi (a enillodd Wobr Nobel am Feddygaeth y mis diwethaf – ynghyd â Harald zur Hausen, a ddarganfu’r firws papiloma, sydd yn destun hysbyseb yn Gymraeg ar S4C ar hyn o bryd) mai HIV oedd yn gyfrifol am y cyflwr. Wrth astudio’r firws sylweddolwyd mai croesi o’r Tsimpansî a wnaeth y firws yn wreiddiol. Ond pryd ddigwyddodd hyn ? Hyd yn ddiweddar un enghraifft arall o feinwe yn unig a gasglwyd cyn 1976 a oedd yn cario’r firws – a hwnnw o glaf a fu farw yn Kinshasa yn y Congo yn 1959. Mae modd olrhain hanes esblygiad firws trwy gymharu newidiadau dilyniant eu genynnau (DNA, neu RNA yn achlysur HIV). Yr un broses a ddefnyddir gan y miloedd ohonom sy’n chwilio am eu hachau trwy ddadansoddi ein DNA ni. Ond nid oedd un enghraifft cyn 1976 yn ddigon yn ystadegol. Bellach trwy ddadansoddi nifer helaeth o hen samplau o ysbytai’r Unol Daleithiau o’r 60au daethpwyd o hyd i ail achos o HIV, hefyd o Kinshasa, o 1960. Roedd hwn yn ddigon gwahanol i fedru amcangyfrif yr achos cyntaf mewn pobol. Er nad yw’n hollol fanwl gywir – yr ateb yw tua’r flwyddyn 1908. Mae cymdeithasegwyr yn awgrymu nad cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith mai dyma gyfnod ymddangosiad dinasoedd mawr cyntaf deheudiroedd yr Affrig (Kinshasa, Douala a Brazzaville), ynghyd â phatrymau ymddygiad rhywiol newydd. Dywed David Worobey, o Brifysgol Tucson, a wnaeth y darganfyddiad, efallai bod llygedyn o obaith yn hyn i gyd. Mae’n ymddangos nad yw HIV yn firws effeithiol iawn yn esblygiadol. Dibynna ei “lwyddiant” ar amgylchiadau eithriadol. Gobeithia y bydd addysg, profi cyson ac ymgyrchu i osgoi heintio yn ddigon i wthio’r firws dros y dibyn i ebargofiant. Mae angen yr holl lwc yn y byd ar wledydd Affrica yn hyn o beth.