Barn 18 (Hydref 2008): LHC, Canfod Blas, Genynnau’r Rhufeiniaid, Problemau Priodas

Pynciau: LHC, Canfod Blas, Genynnau’r Rhufeiniaid, Problemau Priodas

Mae rhaid cychwyn y mis hwn trwy sôn, yn fyr, am gynnau’r peiriant mwyaf a adeiladwyd erioed gan ddyn – yr LHC, Gwthrdrawydd Mawr Hadronnau, ger Genefa.  Edrychais ymlaen am flynyddoedd at y diwrnod. Ar ben popeth arall, roedd clywed cynnwrf y foment gyntaf mewn acen Aberdâr yn pentyrru mwy o werth fyth arno imi, wrth i Lyn Evans, arweinydd y prosiect,  glicio’i lygoden a chyfri’r eiliadau. Mae’n 91 mlynedd ers i Ernest Rutherford “hollti’r” atom a chychwyn ar y siwrnai i ddeall beth yw natur cyfansoddiad y bydysawd.  Yn 1964 cynigwyd syniad y quark fel disgrifiad cyffredinol ar grŵp arbennig o ronynnau sydd – trwy gyfuno mewn grwpiau o ddau neu dri – yn ffurfio gronynnau mwy cyfarwydd megis y proton a’r niwtron. Bellach credir fod 6 quark – ac mae modd esbonio dros 200 o hadronnau hysbys trwy eu cyfuno.  Mae’r rhain yn ymddwyn mewn modd arbennig a ddisgrifir yn Fermionau (a elwir ar ôl y ffisegydd Enrico Fermi). Dosbarth arall o ronynnau y medrir eu darogan yw’r Bosonau (a elwir ar ôl Satyendra Nath Bose). Yn ôl model presennol y bydysawd (a elwir y Model Safonol) dylai fod pump (elfennol) o’r rhain yn unig. Hyd yma darganfuwyd pedair ohonynt. Y pumed yw’r Boson Higgs – y sonnir cymaint amdani. Mae modd darogan hwn o fathemateg y Model. Ei swyddogaeth arbennig yw esbonio beth yw natur mas. Hebddo, nid oes modd esbonio paham ein bod yn pwyso gormod (neu yn wir yn pwyso o gwbl) ! Gan fod esboniad o’r bydysawd heb gynnwys mas yn amlwg yn annigonol mae darganfod yr Higgs yn holl bwysig i’n dealltwriaeth. Yr unig ffordd i’w gweld yw trwy eu creu yn y labordy. Ond i wneud hyn mae angen mwy o egni mewn un man nag oedd modd eu cronni ar y ddaear cyn adeiladu’r LHC. Nid oes gofod yma i ymhelaethu, ond disgwylir gweld tystiolaeth uniongyrchol ohono cyn diwedd 2009 – ar ôl i’r LHC orffen ei gyfnod “running in”.  Wrth gwrs, efallai na fydd yn ymddangos fel y disgwyl – canlyniad arbennig iawn a fydd yn gorfodi ail feddwl syniadau uniongred sydd wedi goroesi pob amheuaeth a phrawf ers 1967.

Os nad ydy arbrawf mwyaf y ganrif ddim at eich dant – efallai y bydd darganfyddiadau cwmni o’r enw Senomyx o San Diego, Califfornia. Maent wedi darganfod modd i sgrinio chwarter miliwn cemegyn am ei flas bob tri mis. Gwneir hyn trwy osod genynnau’r proteinau synhwyro mewn haen o gelloedd mewn dysgl Petri. Pan osodir y cemegyn “cywir” ar y celloedd maent yn fflwroleuo’n  wyrdd. Mae ganddynt broteinau ar gyfer pob blas – melys, sur, chwerw, hallt ac umami (sef savoury).  Ond nid yn unig y blasau eu hunain sy’n diddori Senomyx, ond eu darganfyddiad bod ambell gemegyn yn cryfhau effaith y cemegau blas yn sylweddol. Er enghraifft mae S6973 yn dyblu effaith siwgr. Gwelir lle amlwg i’r rhain yn y farchnad “colli pwysau”.  Eisioes mae melysyddion artiffisial yn werth $1.6 biliwn y flwyddyn. Yn wahanol i felysyddion megis aspartame a sucralose, nid oes blas i S6973 – ond mae modd haneru’r dogn siwgr trwy ei ddefnyddio. Bellach mae cwmni Campell wedi comisiynu Senomyx i ddod o hyd i gemegolion sy’n cryfhau blas halen yn yr un modd – er mwyn lleihau dogn halen eu dewis gawl. Tra bo cwmni bwyd iach yn Missouri wedi gofyn am gemegolion sy’n cuddio adflas anhyfryd ffa soya.  Un canlyniad annisgwyl yr ymchwil diweddar yma i flas, yw sylweddoli pa mor gymhleth yw adwaith yr ymennydd i surni (yn wahanol i’r lleill, mae hwn yn aml yn gysylltiedig â gwenwyn). Efallai y bydd modd creu “blasau” newydd hyd yn oed.

Daeth y Rhufeiniaid â phob math o flasau newydd i ni’r Cymry. Ond mewn erthygl ddiweddar yn y cylchgrawn Infection, Genetics and Evolution cyhoeddwyd erthygl yn honni eu bod efallai wedi dwyn ambell i beth bwysig hefyd. Modd gwrthsefyll AIDS, er enghraifft. Byrdwn yr erthygl yw bod perchnogion genyn o’r enw CCR5-Delta32 yn llai tebygol o ddatblygu’r clefyd.  Digwydd hyn oherwydd mai math miwtiedig o’r protein sy’n codi’r firws yw hwn. Yn gyffredinol dim ond yn Ewrop a gorllewin Asia y gwelir y mwtantiaid yma – ac yn Ewrop mae’n llai cyffredin wrth symud i’r de. Dilyna hyn yn union ddosbarthiad yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn Sweden mae dros 15% yn ei gario; yng ngwald Groeg, llai na 4%. Ond mae’n hysbys mai cymharol ychydig o “waed” y Rhufeiniad a adawyd ar eu hôl. Anodd iawn yw darganfod genynnau “Rhufeinig” yng Nghymru, er enghraifft. Esboniad mwy tebygol yw y bu i’ r rhai hynny oedd yn cario’r genyn fod yn fwy sensitif i ryw glefyd arall a gyflwynwyd gan y Rhufeiniaid ac y bu iddynt farw o’r clefyd hwnnw. Gwelir yr effaith hyd heddiw. Fe wyddys i’r Rhufeiniaid gario mosgitos heintiedig yn eu rhengoedd – ac mae’n ddiddorol canfod bod perchnogion CCR5-Delta32  heddiw yn fwy tebygol o ddioddef o firws Gorllewin y Neil, sydd hefyd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar.

Ond yr hanes “genynnol” a ddaliodd fy llygad y mis hwn oedd yr un am RS3 334. Mae modd i ddyn gael hyd at ddau gopi ohono. Merched – gwell ichi wybod faint cyn priodi. Nid yn unig roedd perchnogion dau gopi yn llai tebygol o fod yn briod na’r rhai gydag un neu ddim un, ond ar ôl priodi ‘roeddent yn ddwywaith mwy tebygol o gael trafferthion priodasol. Tybir mai protein synhwyro’r hormon vasopressin sydd wrth wraidd yr effaith. Mewn ymchwiliadau eraill cysylltir hwn ag ymddiriedaeth. Yn wir mae’n gyffredin i ddioddefwyr Awtistiaeth hefyd feddu ar sawl copi o’r genyn. Nod nesaf y grŵp ymchwil yw gweld beth yw effaith chwistrellu vasopressin i’r trwyn ar altrwistiaeth a chenfigen.  Fechgyn – fe’ch rhybuddiwyd!