Barn 17 (Medi 2008): Dŵr berw, Mamavirus, Lladd Fwlturiaid

100 gradd Celsius – neu 212 Farenheit. Ateb syml i’r cwestiwn am ferwbwynt dŵr ? Yn anffodus, fel gyda chymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt.  Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest, yno mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd Celsius. Dim gobaith am baned resymol o de yno, felly.  Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafod Eryri”, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol – tua un atmosffer ar gyfer pob 10 metr.  Mi fyddai paned wedi’i pharatoi (a’i hyfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur ryw 110 gradd braf. Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd. Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed  – 464 gradd Celsius. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd – nid oes “swigod”. Mae’n hylif ac yn anwedd ar yr un pryd. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei weld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metelau – megis aur a haearn –  o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. (Tybed beth fyddai hanes dail tê ?) Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Yn gymharol ddiweddar y sylweddolwyd pa mor gyffredin oedd firysau yn y môr. Yn ffodus, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt o unrhyw berygl i ddynoliaeth. Ond mae’n aneglur i ba raddau y maent yn rheoli bywyd arall y môr ac, o’r herwydd, yr hinsawdd trwy effeithio ar  gylchoedd carbon a nitrogen.  Fel arfer, peth bach yw firws – yn wir, fe’i darganfuwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd ei ddawn o dreiddio hidlen a oedd yn dal pob bacteriwm. Yn y cylchgrawn Nature a ymddangosodd adeg yr Eisteddfod mae erthygl yn disgrifio math enfawr a firws a thybir ei fod yn weddol gyffredin yn y môr. Dim ond yn 2003 yr adnabuwyd y dosbarth  Bendigeidfranol hwn am y tro cyntaf. Cyn hynny fe’i camgymerwyd am facteria. Mae ganddo dros 900 o enynnau’r un – nid annhebyg i facteriwm. Fe’i galwyd yn “Mimivirus” (mimicking microbe). Yn awr gwelwyd rhai mwy fyth – y “Mamavirus”. A’r hyn sy’n annisgwyl am y rhain yw eu bod wedi’u heintio â firws arall (a fedyddiwyd yn “Sbwtnic”). Mae’n union fel petai annwyd yn medru dal annwyd! Hen gwestiwn i’m myfyrwyr yw a ddylid ystyried firysau yn bethau “byw” ai peidio? Nid ydynt yn gelloedd, ac nid ydynt yn medru gwneud dim heb gelloedd byw i’w cynnal. Yr ateb y disgwyliaf yw “nac ydynt”. Bellach, gan eu bod yn medru bod yn “sâl” byddaf yn disgwyl gweld ychydig mwy o gydymdeimlad â nhw. Bydd  rhaid newid fy narlithoedd!

Wn i ddim faint o gydymdeimlad sydd gan drigolion yr India â’r Fwlturiaid. Yn bendant, nid ydynt ymhlith hoff greaduriaid fersiwn Hollywood o’r Jungle Book. Yn ddiweddar, ysywaeth, tanlinellwyd pa mor bwysig ydynt i iechyd pobl.  Yn y 90au dechreuwyd defnyddio cyffur o’r enw diclofenac i drin gwartheg.  Yn anffodus mae presenoldeb y cyffur yn gwneud celanedd y gwartheg yn wenwynig i’r Fwlturiaid – a dechreuasant ddiflannu o’r tir, gan adael cyrff y gwartheg heb eu bwyta. Yn sgil hyn chwyddodd poblogaeth cŵn gwyllt yr India o 5.5 miliwn yn ystod y cyfnod rhwng 1992 a 2006. Amcangyfrifir bod hyn wedi arwain at bron 50,000 o farwolaethau o’r gynddaredd ymysg pobl dros y cyfnod hwn. Bellach mae gwaharddiad ar ddefnyddio diclofenac yn yr India. Er y defnyddir ef drwy’r byd i drin pobl rhag mathau o wynegon –  gan ei fod yn gweithio’n debyg i aspirin ac ibuprofen.

Enghraifft ardderchog o sgil-effaith annisgwyl gweithgaredd dyn ar ecoleg yw hwn.  Daeth un arall i’m sylw yn ddiweddar a fydd, o bosibl, o ddiddordeb arbennig i’r Tywysog Charles a’i atgasedd at dechnegau GM. Un o’r enghreifftiau dadleuol o gynnyrch GM yw defnyddio’r hormon somatotrophin i hybu cynnyrch llaeth mewn gwartheg. Fe’i defnyddir yn yr Unol Daleithiau. Wrth ddargyfeirio mwy o faeth i’r llefrith, mae lleihad sylweddol yng nghynnyrch methan – nwy tŷ gwydr cryf a ryddheir yn doreithiog i’r awyrgylch wrth i wartheg dorri gwynt. Amcangyfrir yr arbedir tua 7 y cant am bob litr o laeth ychwanegol. Honna awduron papur diweddar yn y cylchgrawn tra-pharchus PNAS, y byddai trin miliwn o wartheg â somatostatin yn gyfystyr â thynnu 400,000 o geir teulu oddi ar y ffordd yn yr ymgyrch yn erbyn cynhesu byd eang. Afraid dweud nad yw Greenpeace, na’r Tywysog ychwaith, mae’n bur debyg, o’r un farn!


Pynciau: Dŵr berw, Mamavirus, Lladd Fwlturiaid