Barn 16 (Hâf 2008)

Pynciau:


Fel un sy’n darlithio i fyfyrwyr am effeithiau nicotin ac alcohol ar eu molecylau a’u celloedd, trist oedd darllen yn ddiweddar am safle Cymru yn y “Tablau Arferion Drwg Rhyngwladol”. Mae’n debyg ichi glywed y cyhoeddusrwydd. Ar ôl holi chwarter miliwn o bobl ifanc ledled Ewrop, Cymru oedd yr uchaf am feddwdod dan oed. Gwael, hefyd oedd y ffigyrau am ysmygu nicotin a chanabis, lle mae merched 15 oed Cymru yn arwain y Cyfandir.  Naturiol, felly, yw bod gwyddonwyr a chymdeithasegwyr yn ceisio deall y ffenomen lled-newydd hon.

Darllenais ddau adroddiad perthnasol yn ddiweddar. A’r ddau a’r un math o neges. Daeth y cyntaf o’r Unol Dalaethiau, lle mae’r ymchwil diweddaraf yn dangos bod llai o bobl ifanc yn defnyddio alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon nag y bu.  Ond yn yr adroddiad hwn gan Gavan Fitzsimons ‘roedd rhybudd bod yr ymchwil ei hun yn beryglus. Honnir bod pobl ifainc sy’n cyfrannu i holiaduron ynglwn â’u hymddygiad personol yn fwy tebygol o wneud y pethau yr holir amdanynt yn y dyfodol!  Ar ôl holi a fyddent yn debygol o ddefnyddio cyffuriau yn y dyfodol – ac yna eu holi eto ar ôl rhai misoedd – bu cynnydd 2.8 gwaith yn y nifer a holwyd o’i gymharu â grŵp nas holwyd o’r blaen. Rhybuddia Fitzsimons bod angen cymryd y gofal eithaf, felly, wrth lunio’r fath holiaduron. Yn ffodus, mae’n ymddangos bod rhybudd i’r perwyl ar yr holiadur yn lleihâi’r effaith.

Yn aml pechodau cyffredinol ein hoes sy’n cael eu beio am y cynnydd, ond mewn erthygl arall ar y pwnc yn y cylchgrawn Nature, dadleua Paul Ormerod mai ffasiwn sy’n gyfrifol, neu o leiaf eich dewis o gyfeillion. Holwyd 504 unigolyn rhwng 18 a 24 oed am eu harferion yfed. Honnai hanner y  rhai a yfai’n drwm (dros 10 uned yr wythnos) bod pob un, neu bron pob un, o’u ffrindiau yn gwneud yr un fath – tra mai dim ond 15% o’r lleill atebodd fod nifer sylweddol o’u ffrindiau yn “sesiynna”.  Mae’r ddau adroddiad yn pwysleisio dylanwad y dorf ar yr unigolyn. Nod yr ymchwil yw darganfod sut y dylid mynd ati i drin y broblem – targedu’r yfwyr trwm, neu geisio cryfhau gallu’r yfwyr cymedrol i wrthsefyll dylanwad y dorf.

Gormodedd o hylif o fath wahanol sy’n diddori gwyddonwyr tywydd yr Unol Dalaethiau ar hyn o bryd, sef d?r glaw. Ym mis Mehefin eleni gorlifodd afonydd y Mississippi-Missouri gan greu’r llifogydd mwyaf dinistriol ers 1993 pan foddwyd hanner cant o drefi. Adwaith llywodraeth Clinton ar y pryd oedd cynllunio cyfundrefn o “levees” i warchod trefydd ledled y Canolbarth. Y syniad oedd aberthu’r tiroedd amaethyddol ar lif mawr.  Profodd y cynllun yn rhy uchelgeisiol – ond bellach daeth tro eironig ar fyd. Gyda phris cnydau, megis India Corn, ar gynnydd gwarchod y ffermydd sydd uchaf ar yr agenda. Eleni collwyd 2 filiwn hectar o gorn a ffa soia – ffactor arall sy’n ychwanegu at gost ein basgedi siopa. Wrth edrych ar dystiolaeth ddaearegol dros y 7000 o flynyddoedd diwethaf, mae James Knox, Prifysgol Wisconsin-Madison yn credu y daw’r llifogydd mwyaf ar adegau o newid sydyn yn yr hinsawdd – fel sydd wedi digwydd ers y 1950au.

Ond ynghanol holl ofnau Jeremeia (neu’n hytrach Noa) am ddyfodol y ddaear – efallai y daw llygedyn o obaith gan y seryddwr hynod Didier Queloz.  Yn 1995, Queloz oedd y cyntaf i ddarganfod planed yn troelli seren heulog arall pan ddaeth o hyd i un sy’n troelli 51 Pegasi, yng nghytser Pagasws. Y syndod oedd mai dim ond  4.2 diwrnod oedd hyd bob blwyddyn with iddi rasio yn ei chylchdro; arwydd ei bod yn llawer rhy agos i’w seren i gynnal bywyd. Ers hynny darganfuwyd tua 300 o blanedau tu hwnt i gyfundrefn yr haul. Y dechneg a ddefnyddir yw edrych am sigl y seren wrth i ddisgyrchiant y blaned dynnu arni. Wrth gwrs po leiaf  ydyw’r blaned,  a’r mwyaf tebyg i’r ddaear, y lleiaf yw’r effaith. Wrth i’r technegau arsyllu wella, gwelir planedau llai; a’r mis diwethaf darganfuwyd planed dim ond tair gwaith maint ein daear. Ond y syndod mwyaf yw pa mor gyffredin yw’r planedau bychain hyn. O’r 150 seren a astudiwyd gan Queloz a’i dîm eleni gwelwyd bod gan draean ohonynt blanedau llai na 30 maint y ddaear a chylchdaith llai na 50 diwrnod.  Roedd hyn yn annisgwyl gan fod planedau mwy – tua maint Iau, sef  300 gwaith y ddaear – yn llawer llai cyffredin. O fewn dwy flynedd gobeithia Queloz y bydd yn medru gwella ei dechneg i synhwyro planedau o faint y ddaear sy’n cylchdroi eu sêr ar tua’r un pellter – sef yn y parth lle byddai bywyd daearol yn bosibl.

Ond os yw’r ffeithiau hyn yn trethu’r meddwl, efallai y dylech ofalu am beth yr ydych yn ei daenu ar eich tost – neu’n hytrach ar dost eich merched a’ch wyresau. Mae sawl astudiaeth wedi cryfhau’r gred hysbysebiedig bod brasterau omega-3, sydd i’w cael mewn pysgod bras fel eogiaid,  yn cryfhau deallusrwydd plant. Nawr mae astudiaeth fanylach o’r data yn datgelu bod yr effaith ddwywaith yn gryfach mewn merched nac yw mewn bechgyn.  Yn wir cyhoeddodd William Lassek o Brifysgol Pittsburgh bod yr effaith bositif ar ferched yn gryfach na’r effaith negyddol a geir o grynodiadau plwm mewn gwaed. Ond nid dyna ddiwedd yr hanes. Lleiheir yn sylweddol yr effaith wrth fwyta mwy o fraster omega-6 – sef yr hyn a geir mewn olew blodyn haul, corn neu soya. Mae’n debyg bod hwn yn disodli’r omega-3 o’r corff. Unwaith eto, mae’r effaith negyddol hwn yn llawer amlycach mewn merched. Onid oedd Ledi Diana yn argymell bwyta margarîn blodyn haul enwog ?

Un ffordd o fesur lefel brasterau mewn person yw eu mesur yn y gwaed. Peth cymharol hawdd i’w wneud mewn person. Ond yn llawer mwy o sialens i geidwad sŵ yn ceisio dogni gwaed teigr neu siraff. Daeth hon yn broblem ymarferol wrth i glefyd y Tafod Lâs ymestyn ar draws gogledd Ewrop yn ddiweddar. Mewn Sŵ yng ngwlad Belg y llynedd bu farw Yak gwerthfawr ohono. Y broblem yw gwybod faint o r chwistrelliad sydd  i w ddefnyddio mewn anifail gwyllt heb orfod ei ddal tro ar ôl tro. Proses sy’n peryglu bywyd y rhai ohonynt, megis y siraff, sy n adweithio n ddrwg i bicelli anaesthetig. Yr ateb yw’r Chwilen Gusan o Fecsico!  Mae Sŵ Wuppertal, yn yr Almaen, wedi dechrau dosbarthu r pryfed yma i ddwsin a mwy o Sŵs eraill. Tua chentimedr yw hyd  pob pry – ond mae n medru sugno 3 mililitr o waed anifail yn hollol ddiboen.  Mae modd ei osod ar yr anifail mwyaf anhydrin ac aros nes ei fod wedi yfed ei gwala yna bydd yn disgyn i r ddaear. Oddi yno gellir ei godi a dadansoddi r gwaed. Yn ôl un lladmerydd mae n rhaid cymryd gofal.  Unwaith, meddai, sathrodd hipo ar chwilen lawn dop – a bu rhaid ailddechrau. Mwynhewch yr hâf !