Barn 15 (Mehefin 2008)

Pynciau: Tunguska, Deuocsid Carbon, Yr Ymenydd


Rydym newydd ddathlu canmlwyddiant un o olygfeydd naturiol rhyfeddaf yr 20fed ganrif, sef “Digwyddiad” Tunguska.  Ar fore’r 20fed o Fehefin, 1908 ynghanol Siberia trawyd y Ddaear gan wrthrych o’r gofod. Y trawiad mwyaf o’i fath yn y cyfnod hanesyddol. Pe bai wedi taro Llundain, neu Sain Petersburg (sydd fwy nei lai ar yr un lledred) byddent wedi  peidio â bod.  Chwalwyd 80 miliwn o goed dros ardal maint Ynys Môn. Eironi hanes yw ein bod o hyd yn ansicr beth yn union oedd y gwrthrych.   Anghysbell iawn oedd y safle, ac ‘roedd Rwsia yn cychwyn ar gyfnod anodd yn ei hanes. Yn sicr, nid dyma’r amser priodol i wyddonwyr grwydro ei berfeddwlad yn chwilio am dystiolaeth gosmig. Dim ond yn 1927 y mentrwyd i’r ardal a darganfod bonion yr holl goed – ond doedd dim arwydd o dwll nac olion meteor ar y ddaear. Y gred gyffredinol yw bod beth bynnag oedd yn gyfrifol – comed neu asteroid bychan 50 – 80 medr ar ei draws – wedi llwyr anweddu ryw chwe milltir yn yr awyr, lle bu sioc y ffrwydrad yn ddigon i greu’r dinistr ar wyneb y ddaear islaw. Nid oes sôn am laddedigion, ond fe welwyd y ffrwydrad o bell gan frodorion yr ardal.  Bu effeithiau atmosfferig ledled y byd – ac yn Llundain bu modd darllen papur newydd hanner nos y noswaith ganlynol yng ngoleuedd cyffredinol yr awyr. Ond mae pwysigrwydd i’r “digwyddiad” y tu hwnt i un foment mewn hanes. Beth yw’r tebygolrwydd i’r un peth ddigwydd eto – uwchben Ynys Môn, neu Gaerdydd? 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl mae’n debyg i drawiad o’r fath, ond mwy, ddod ag oes y dinosor i ben. Mis Medi diwethaf glaniodd meteor bychan iawn yn agos i bentref ym Mheriw, De’r Amerig, gan greu twll 14 troedfedd o ddyfnder.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae tîm o wyddonwyr o’r Eidal wedi ceisio datrys y gyfrinach – ac wedi troi eu golygon at lyn bychan o’r enw Cheko tua 5 milltir o ganolbwynt y digwyddiad. Ar ôl mapio’r llyn yn ofalus a gweld bod iddo holl briodoleddau crater – trwy ddefnyddio techneg debyg i’r sgan sain i weld babi yn y groth, maent wedi canfod rhywbeth o dan waddod trwchus gwaelod y llyn a all fod yn rhan o’r gwrthrych arallfydol. Yn hwyrach eleni byddant yn dychwelyd i Tanguska i geisio cyrraedd y gwrthrych hwn – yn y gobaith y bydd yno ateb i’r cwestiwn cant oed a sylfaen cyngor ar sut i osgoi argyfwng yn y dyfodol.

Yn y cyfamser mae gwyddonwyr Arsyllfa Mauna Loa yn Hawaii wedi cyhoeddi bod lefel carbon deuocsid yr awyrgylch wedi cyrraedd y lefel uchaf ers dros 650,000 o flynyddoedd – 387 rhan y filiwn. Atgof amserol mai nad dim ond gwrthdrawiadau o’r gofod sydd yn medru creu hafoc ar y ddaear.

Peth rhyfedd yw cyd-ddigwyddiad rhifau, ac wrth imi sôn am 65 miliwn a 650 mil o flynyddoedd yn ôl; digwyddiadau 65 mil o flynyddoedd yn ôl oedd o dan sylw mewn rhifyn diweddar o gylchgrawn y Gymdeithas Frenhinol.  Er bod dyn modern, Homo sapiens, yn ymddangos tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl nid oes olion gwareiddiad modern am tua 140,000 o flynyddoedd wedi hynny.  Beth ddigwyddodd i’w ysgogi?  Y ddadl yw y bu datblygiad araf ym maint ein “cof gweithredol”.  Mae modd lleoli hwn yn yr ymennydd. Hwn sy’n ein galluogi i gysylltu’r presennol a’r gorffennol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r dyfodol. Erbyn 65,000 o flynyddoedd yn ôl cyrhaeddodd bwynt lle ‘roedd modd iddo ganiatàu naid “cwantwm” mewn ymddygiad. Yn allweddol o hyn ‘roedd y ddawn i ddysgu (teach) yn fwriadol yn hytrach na dibynnu ar gopïo. Nid yw’r simpansi, ein perthynas agosaf, yn dysgu ei epil – maent yn dibynnu ar iddynt gopïo’n ddiysgog. Datblygiad arall oedd aeddfedu system “drych” yr ymennydd i raddau a alluogai gydweithrediad cymhleth – megis cyd-hela – cyn i iaith ymddangos. Darganfuwyd y system yma yn gyntaf yn yr 80au a’r 90au gan wyddonwyr o Parma, yn yr Eidal. Pan welwn ymddygiad person arall mae’r system hon yn ail greu’r ymddygiad yn ein hymennydd ni – fel petaem ni ein hunain yn gwneud yr un peth. Y canlyniad yw ein bod yn deall i’r dim batrwm ymddygiad pobl eraill. Mae rhai’n credu bod achos rhai symptomau Awtistiaeth i’w ddarganfod pan nad yw’r system yma yn llawn weithredol – yn llythrennol mae’r “cydymdeimlad” yn absennol. Yn wir, mae papur diweddar yn y cylchgrawn Neuropsychologia yn dangos bod cyswllt uniongyrchol rhwng ein dawn ni oll i ddehongli ystumiau wynebau ein gilydd a’r nifer o gelloedd “drych” a ddefnyddiwn bob dydd. Yn ôl awduron cynhadledd y Gymdeithas Frenhinol, daeth yr holl ffactorau hyn at ei gilydd yn ystod yr oes ryfeddol pan drodd dyn yr anifail i fod yn ddyn gwareiddiad.  Wrth gwrs, mae rhai datblygiadau o hyd – ymddengys bod  hipocampws ymennydd gyrwyr tacsi Llundain wedi chwyddo’n sylweddol i gadw mewn cof holl fanylion strydoedd prifddinas Lloegr. Tybed a ydy ymennydd Boris Johnson yr un fath?