Barn 14 (Mai 2008)

Pynciau: ADHD, Nicotin, Yr Americanwyr Gyntaf, Clefydau Gwenith


Pan oeddwn yn fyfyriwr ‘roedd un o’m darlithwyr yn cychwyn ei darlithoedd ymchwil gyda llun o Mao Zedong yn nofio’r Yangze yn 1956. Y rheswm joclyd oedd ei fod yn ymchwilio i’r ensym Mono Amin Oxidas (sef MAO) – sy’n chwarae rhan bwysig yn ymddygiad yr ymennydd.   Mae iddo gysylltiad ac iselder ysbryd a chlefyd Parkinson, lle mae’n chwarae rhan ym metabolaeth L-Dopa. Yn awr mae patrwm arall o ymddygiad wedi’i gysylltu â math arbennig o’r ensym yma – ac oblygiadau dadleuol yn ei sgil.  Mewn rhifyn diweddar o’r  New Scientist mae Anna Gosline yn adolygu’r dystiolaeth fod presenoldeb math gwan o MAO yn gysylltiedig ag ymddygiad treisgar mewn dynion. Cafwyd tystiolaeth glir i ddangos fod plant sydd wedi’u cam-drin yn fwy tebygol i gam-drin eu plant eu hunain – ond mae hyn yn fwy amlwg fyth ymhlith unigolion gyda fersiwn gwan MAO.  Ymddengys fod plant sydd a’r ddwy felltith – MAO gwan a chamdriniaeth – yn dechrau dangos yr effaith yn anghyffredin o gynnar. Yn yr ysgol feithrin, mae ganddynt broblemau iaith, IQ isel ac nid ydynt yn medru canolbwyntio na ymlacio (attention deficit hyperactivity disorder ADHD). Yn fwyfwy aml mae bioleg moleciwlar yn darganfod y fath yma o gyd-perthnasau yma rhwng ein genynnau a’r amgylchedd – ac yn codi’r cwestiwn sut y dylid ymateb. Yn yr achlysur yma, nid oes amheuaeth fod angen gwarchod bechgyn bach rhag eu cam-drin ym mhob achlysur – ond mae’n arbennig o bwysig ymhlith y rhai hynny lle mae modd rhagweld y bydd ei effaith yn arbennig o barhaol.

Disgrifiwyd enghraifft arall o’r cysylltiad genyn-amgylchedd  yn y cylchgrawn Nature ym mis Mawrth. Mae ysmygwyr sy’n cario genyn ar gyfer math arbennig o brotein sy’n ymateb i nicotin yn 30% mwy tebygol o ddatblygu cancr yr ysgyfaint na’r rhai hynny hebddo. Mi fydd chwarter y rhai hynny a ddau gopi yn datblygu’r cyflwr. Un o’r ffactorau annisgwyl yw bod rhan, o leiaf, o’r effaith yn dod yn sgil y ffaith fod presenoldeb y genyn yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i roi’r gorau i ysmygu a bod y cynnydd yn dod yn sgil ysmygu fwy o dybaco. Wrth adnabod y patrwm genynnau mae modd llunio gwahanol cynghori.

Nid yw’n eglur pryd ddechreuodd trigolion Gogledd yr Amerig ysmygu dail y tobacco a oedd yn tyfu yno – a dioddef o’r herwydd -, ond ‘rydym yn fymryn agosach at ganfod pa bryd y cyrhaeddodd eu cyndadau y cyfandir hwnnw yn y lle cyntaf. Mewn ogof yn Oregon darganfuwyd peth o’u baw wedi’i ffosileiddio. Coprolit, neu tomfaen, ydy’r enw am wrthrych felly – a bu modd dadansoddi DNA a oedd wedi goroesi yn y coprolitau yma. Roedd dilyniant y DNA yn dangos mai o ddwyrain Asia y daeth cyndadau eu perchennog a dadansoddi carbon 14 yn rhoi oedran o 14,300 o flynyddoedd iddynt.  Dyma’r olion mae modd eu dyddio’n sicr, cynharaf eto o ddyn yn yr Amerig.  Cyn hyn bu’n anodd iawn ddod o hyd i dystiolaeth bendant am bresenoldeb dyn cyn y gwareiddiad Clovis adnabyddus a ffynnodd tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl.

Bu gryn gynnydd ym mhoblogaeth y byd yn y milflynyddoedd ers hynny – yn bennaf oherwydd datblygiad amaethyddiaeth. Yn ôl gwefan ibiblio Prifysgol Gogledd Carolina, sydd yn adnewyddu pob eiliad,  poblogaeth y byd wrth imi lunio’r nodiadau hyn yw 6,804,558,364. Cynnal yr holl fywydau hyn yw brif sialens y byd heddiw. Yn ei lyfr gwych Guns, Germs & Steel mae Jared Diamond yn esbonio pwysigrwydd ymddangosiad gwenith modern yn y Dwyrain Canol tua 8500 blwyddyn cyn Crist. Yn Ewrop ‘rydyn yn arbennig o ddibynnol ar y grawn yma. Perir braw, felly, gan ymddangosiad straen newydd o ffwng marwol iddo o’r enw Ug99. Fe’i gwelwyd yn gyntaf yn Uganda yn 1999. Yn debyg iawn i’r frwydr yn erbyn ymddangosiad gwrthiant i antibiotigion trin clefydau pobl trwy ddefnyddio sawl un ar y tro, ymateb arferol bridwyr gwenith yw cyflwyno bridiau newydd yn cynnwys tair ffactor gwrth-ffwng gyda’i gilydd. Yn anffodus ni ddigwyddodd hwn yn Kenya – drws nesaf i Uganda. Yno tyfwyd math o wenith ag iddo ddim ond un genyn wrth-ffwng effeithiol. Goresgynnwyd hwn gan Ug99  a llwyddodd i greu dinistr ym maesydd Kenya cyn symyd ymlaen i Ethiopia yn 2003. Mae bridwyr ledled y byd yn gweithio’n galed i ddatblygu gwenith a gwrthiant i’r ffwng a gobeithiwyd fod sawl blwyddyn eto cyn iddo fudo i feysydd holl bwysig y Pwnjab. Y llwybr disgwyliedig oedd symud o’r Yemen, lle eu gwelwyd yn 2007, i’r  Aifft a Thwrci – ac yna i’r dwyrain tuag at India. Yn anffodus, ar Fehefin 8 2007 bu’r corwynt fwyaf am 30 o flynyddoedd yn yr ardal hon a chwythwyd sborau Ug99 yn syth o’r Yemen i ddwyrain Iran.  Mae bellach perygl sylweddol y daw i feysydd gwenith pwysicaf Asia blynyddoedd cyn y byddant yn barod iddo. Eisioes mae gwyddonwyr China wedi cychwyn prosiect ar frys i geisio paratoi eu bridiau hwy.  Ar gefn y trafferthion enfawr sy’n gwynebu cynhyrchwyr reis ledled y byd, y peth olaf i’w chwennych yw problem o’r fath hon gyda gwenith.  Mae’n hen bryd i’n gwleidyddion sylweddoli ein bod yn gwynebu newyn go iawn yma – ac nid dim ond yn y gwledydd tlotaf.  Eironi i mi oedd darllen hwn yr un mis y daeth hanes IGER (y Fridfa Planhigion gynt) i ben ym Mhlas Gogerddan, Aberystwyth.