Pynciau: Rhifyddeg, Darfodiad, Isotopau
O’r diwedd mi wn mai fi oedd yn iawn. Blwyddyn ar ôl blwyddyn mae fy myfyrwyr yn honni nad oes ganddynt synnwyr rhifau – diffyg rhifedd sydd wrth wraidd eu trafferthion disgrifio a dehongli arbrofion hanfodol eu cwrs. Nawr mae gen i’r ateb. Mewn arbrawf ar fabis 3 mis oed, mae Veronique Izard o Brifysgol De-Paris wedi dangos fod ganddynt gylchedau arbennig yn yr ymennydd yn unswydd er mwyn sylwi ar nifer pethau. Gwisgwyd 36 o’r plant bach mewn hetiau sy’n mesur tonnau’r meddwl (am olygfa !). Dangoswyd iddynt gyfres o luniau ar sgrin. Fel arfer bu cysondeb yn y lluniau – pedwar hwyaden. Weithiau, ysywaeth, newidiwyd y gwrthrych – pedwar afal, efallai. Fel y disgwylid, ysgogwyd adwaith i hyn yn rhan o’r ymennydd. Ond beth oedd yn nodweddiadol – oedd i ran wahanol o’r ymennydd ymateb pan newidiwyd nifer y gwrthrychau yn y llun. Mae rhifedd yn rhan annatod o feddwl dynoliaeth. (Nawr, mi wn, mi fydd fy myfyrwyr yn edrych am y genyn sy’n gyfrifol – ac yn honni eu bod yn fwtantiaid !)
Un o’r rhifau mwyaf brawychus yn hanes bywyd ar y ddaear yw canran y rhywogaethau a ddiflannodd ar ddiwedd y cyfnod Permaidd, 251 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Y diflaniad hwn oedd y bedwaredd o chwe digwyddiad cataclismig sydd wedi taro bywyd yn ei gyfanrwydd. Yr olaf, nemor 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl, oedd yr un a ddaeth a’u diwedd i’r dinosoriaid. Yn ôl pob tebyg, meteor yn taro’r ddaear ger arfordir presennol yr Yucatan ym Mecsico, oedd yn gyfrifol am eu diflaniad ar ddiwedd y cyfnod Cretasaidd. Ond bychan oedd y digwyddiad o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd 186 miliwn o flynyddoedd ynghynt. Bryd hynny diflannodd 95% o holl rywogaethau’r môr a 85% o rhai’r tir sych. Cymerodd 10 miliwn o flynyddoedd – 5% o’r cyfnod ers hynny – i fywyd ddod yn ôl at ei hun. Hyd yn ddiweddar doedd dim llawer i awgrymu beth a fu’n gyfrifol. Roedd tystiolaeth am feteor arall yn absennol. Dros y ddegawd ddiwethaf mae tystiolaeth gref wedi dod o gyfeiriad arall. Nid ffosiliau gweledig yw’r unig bethau a erys yn y creigiau wedi marwolaeth. Yn wir mae ‘rheini yn eithaf prin. Mae hefyd olion cemegol y cyrff pydredig eu hunain. Yn wir mae gan ambell gemegyn o’r fath y molecylau gwytnaf ar y ddaear. Yn fwyfwy edrychir am y bio-arwyddion hyn yng ngwaddodion y ddaear. Er syndod gellir eu gweld yn ymestyn yn ôl bron at eni’r ddaear dros 4 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ond mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn y cofnod o bryd i’w gilydd. Wrth i greigiau’r cyfnod Permaidd ddod i ben ymddengys cemegyn o’r enw iosorenieraten. Heddiw gwelir hwn mewn un lle yn unig – yng nghellfuriau dau fath arbennig o facteria “sylffwr”. Nodwedd y rhain yw er eu bod yn ffotosynthetig ac na fedrant oddef ocsigen. Yn lle hollti d?r i greu’r nwy hwn sydd mor hanfodol i ran fwyaf o fywyd y ddaear, maent yn hollti sylffid hydrogen (arogl wyau clonc). Mae presenoldeb cymaint o iosorenieraten yn awgrymu bod moroedd y byd yn llawn o’r nwy hollol wenwynig yma. Ac wrth ddianc i’r awyr, hwn fu’n gyfrifol am bron a dirwyn bywyd ar y ddaear i ben. Ac o ba le y daeth y swlffid yn y lle cyntaf ? Y ddamcaniaeth yw mai newid hinsawdd ddigwyddodd yn sgil yr echdoriadau folcanig mwyaf hirhoedlog a welodd y byd erioed. Gwelir eu hôl yng ngogledd Asia – basaltau Trapiau Siberia. Oherwydd gwresogi pallodd y sustemau tywydd a thrôdd y moroedd yn ferllynnoedd disymud, di-ocsigen. Bellach mae tystiolaeth debyg am feicrobau eraill sy’n gysylltiedig â’r diflaniadau eraill – y Defonaidd a’r Triasig. Efallai felly mai unigryw oedd y meteor a laddodd y dinosoriaid. O dan ein traed y dylem edrych am ddiwedd ein byd !
Ond mae ceisio gwarchod y byd yn costio’n ddrud weithiau. Yng nghanol Ionawr collodd Linda Keen, pennaeth Comisiwn Diogelwch Niwclear Canada, ei swydd am iddi wneud ei gwaith. Ddeufis ynghynt roedd ei thîm wedi sylwi bod Adweithydd Chalk River, Ontario, yn rhedeg heb ddau bwmp wrth gefn a oedd yn rhan o amod trwydded y gwaith. Roedd hyn yn amlwg yn erbyn y rheolau a gorchmynnwyd cau’r adweithydd hyd nes y gosodwyd y pympiau yn eu lle. Yn anffodus, yr adweithydd yma yw tarddiad dros hanner yr isotopau a ddefnyddir ledled y byd mewn meddygaeth i ganfod cancr a chlefyd y galon. Buasai cau’r adweithydd yn arwain yn syth at brinder ohonynt. Symudodd Llywodraeth Canada – a ddiswyddwyd Keen ar y sail mai hi oedd nid yn unig yn gyfrifol am warchod y byd rhag damwain niwclear, ond hefyd yn gyfrifol am sicrhau ffynhonnell o ddeunyddiau ymbelydrol holl bwysig. Mi gadwaf i fy swydd ym Mangor – mae’n haws ceisio perswadio myfyrwyr nad ydynt yn fwtantiaid.