Pynciau: Pandemic Ffliw, Cancr y Fron, Fampirod, Cŵn
Rhwng Mawrth 1918 a Mehefin 1920 bu farw rhwng 50 a 100 miliwn oherwydd pandemig y Ffliw “Sbaenaidd”. Llawer mwy nag yn y Rhyfel Mawr a mwy, o bosib, nag yn ystod Pla Du’r canol oesoedd. Firysiau sy’n gyfrifol am anwydydd a ffliw. Dydy antibiotigion yn dda i ddim yn eu herbyn. Yr arf yw’r brechiad; a phrotein arbennig (gwrthgorff neu antibody) sydd wrth ei wraidd. Rhaid i’r gwrthgorff gyfateb yn union i broteinau’r firws. Y gymhariaeth arferol yw megis allwedd i dwll y clo. Y broblem i ddynoliaeth yw bod natur twll y clo yn newid o hyd. Sialens flynyddol i’r WHO (World Health Organisation) yw canfod y straeniau newydd a phenderfynu pa dri neu bedwar fydd yn debygol o fod yn bwysig ymhen rhyw 18 mis. Y mae fel paratoi’r siopau ar gyfer y Nadolig i ddod; mae’n cymryd dros flwyddyn i baratoi’r cyflenwad brechiadau angenrheidiol. Ers blynyddoedd lawer mae imiwnolegwyr byd eang wedi ceisio codi gwrthgyrff i’r ambell brotein yn y firws sydd mor greiddiol i’w cylch bywyd fel nad ydynt yn newid. Un o’r rhain yw M2e. Profodd yn amhosibl dod o hyd i frechiad gweithredol trwy ddefnyddio dulliau arferol. Ond mewn datblygiad a all fod o bwys byd-eang gwirioneddol, ar ddechrau’r flwyddyn fe lwyddwyd i wneud hyn trwy ddefnyddio bioleg foleciwlar i uno M2e gyda phrotein arall o’r firws hepatitis ac hefyd gyflyru’r system imwnedd â chemegyn arall. Arbedodd y brechiad fywydau 70% o grŵp o ffuredau a heintiwyd â firws “ffliw adar” H5N1 ac ymddangosodd gwrthgyrff mewn 90% o wirfoddolwyr mewn prawf dynol.
Un o ddisgwyliadau’r chwyldro DNA yw y bydd modd darogan peth o’n dyfodol personol. Yn ddiweddar cyhoeddodd Craig Venter, a oedd yn bennaf gyfrifol am y ras i ddatrys dilyniant dyn, fod hyn wedi newid ei batrwm bywyd wedi iddo ddeall fod ganddo enynnau a oedd yn ei gwneud hi’n fwy tebyg y byddai’n dioddef clefyd y galon. Nid yw James Watson am wybod pa fersiynau o ambell enyn sy’n gysylltiedig â chancr sydd ganddo. Oherwydd,yn wahanol i glefyd y galon, nid oes dim y medr ei wneud i newid pethau ar hyn o bryd. Heddiw, dyma’r unig bobl yn y byd sydd a’u holl ddilyniant wedi’i darllen. Ond mae’r rhan fwyaf o’n genynnau sy’n pennu ein hiechyd i’w canfod ar ddim ond 1% o’r genom ac mae’n fwyfwy cyffredin i glinigwyr ei ddarllen. Erys y broblem, ysywaeth, o sut y dylai’r unigolyn ymateb. Un enghraifft ddramatig o hyn yw’r ddau enyn BRCA1 an BRCA2. Yn ôl ambell arolwg bydd 80% o ferched sy’n meddu ar y genynnau yma yn dioddef cancr y fron cyn cyrraedd 70 oed. Ers blynyddoedd mae nifer wedi penderfynu cael codi eu bronnau cyn datblygu’r clefyd. Mae hwn yn “newid patrwm bywyd” eithriadol. Ond, mewn papur diweddar yn y Journal of the American Medical Association, mae Colin Begg a’i gydweithwyr yn dangos bod merched sy’n cario BRCA yn syrthio i sawl dosbarth. I rai mae presenoldeb y genynnau yn rhybudd sicr, ond i eraill nid felly. Ymddengys os oes gan gariwr hanes teuluol o gancr y fron, y mae’r tebygolrwydd yn codi tuag at 90%. Ond i laweroedd eraill nid yw’r tebygolrwydd yn wahanol i’r boblogaeth yn gyffredinol. Wrth i fwy a fwy o wragedd cael eu dadansoddi mae’n holl bwysig iddynt, ac i’w ymgynghorwyr, ddeall i ba ddosbarth y maent yn perthyn.
Ym mhen pella’r byd – ym Mangladesh – efallai bod ychydig gymorth at glefyd arall. Un o sgandalau diwedd yr ugeinfed ganrif oedd i awdurdodau rhyngwladol (megis UNICEF a Banc y Byd) beidio â sylweddoli eu bod, wrth geisio ymestyn y cyflenwadau dur cyhoeddus, yn gwenwyno ryw 30 miliwn o bobl â’r gwenwyn “Agatha Christiaidd”, Arsenic, sy’n bodoli’n naturiol yn y creigiau. Mae’r broblem aruthrol yn parhau. Efallai daw peth cymorth o gyfeiriad annisgwyl. Mae Keya Chaudhuri a’i chydweithwyr yn Kolkata (Calcutta) wedi darganfod bod bwydo garlleg i lygod mawr sy’n yfed dŵr wedi’i lygru ag arsenic, yn gostwng yn sylweddol grynodiad yr elfen yn eu meinweoedd ac yn cynyddu’r maint yn eu dur. Cred Chaudhuri mai’r sylweddau sylffwr yn y garlleg sy’n gyfrifol ac mae’n awgrymu i bentrefwyr yr ardal fwyta tair clof y dydd ohono. Yn sicr, mi fydd llai o fampirod i’w gweld yno !
Wn i ddim am sŵn fampirod, ond peth trist i mi yw clywed cyfarthiad ci – yn enwedig pan fo ar dennyn. Bron yn ddi-ffael cysgod rhwystredig yw o ymgom gymdeithasol cŵn gwyllt eu cyndadau. Dydy’r rhan fwyaf ohonom ddim hyd yn oed yn medru gwahaniaethu cŵn unigol o’u cyfarth. Ond efallai bod pethau ar wella. Mae Eötvös Loránd o Brifysgol Budapest wedi llunio rhaglen gyfrifiadur sydd nid yn unig yn medru adnabod cŵn unigol, ond yn gallu canfod ai cyfarth ar bêl neu ar ddieithryn y maent. Gwell i mi gael copi.