Barn 9 (Tachwedd 2007)

Pwy all anghofio darllen am ddewrder diffoddwyr tân atomfa Chernobyl yn ystod oriau cyntaf damwain 1986 wrth iddynt beryglu eu bywydau yn y ffordd mwyaf ofnadwy i geisio claddu craidd yr adweithydd hollt ?  O’r 100 yno ar y pryd bu farw 28 o effeithiau’r ymbelydredd.  Mae’n debyg nad oeddynt yn llawn sylweddoli’r perygl.  Daeth yr atgof yn ôl wrth ddarllen adroddiad am y tasgau y mae morgrug yn eu dewis wrth gynnal eu nyth. Mae’n ymddangos bod y creaduriaid iau yn gweithio yn niogelwch y nyth ei hun. Y morgrug hyn sy’n mentro i beryglon y tu allan.  I ddarganfod ai oedran oedd wrth wraidd hyn, defnyddiodd Dawid Moron, biolegydd o un o brifysgolion gwlad Pwyl, ddeuocsid carbon i niweidio morgrug o bob oed ac yna astudio eu dewis waith. Darganfuwyd fod yr anifeiliaid rhywsut yn ymwybodol o’r niwed i’w cyrff, ac mai’r rhai oedd â dim ond ychydig i fyw oedd yn mentro fwyaf. Rhagweld marwolaeth ac nid eu hoedran, felly, oedd yr ysgogiad.

Bu pryfyn arall yn y newyddion yn ddiweddar – un a allai ragweld llawer mwy na 28 marwolaeth – ond nid eto ymysg pobl, diolch i’r Drefn. Sôn yr wyf am y gwybed – piwiaid yn iaith Dyffryn Ogwen – sy’n lledu clefyd y Tafod Las ymysg gwartheg a defaid. (Erbyn Hydref 15 ‘roedd 36 fferm wedi’i heintio ym Mhrydain.). Mae’r rhywogaethau arbennig megis Culicoides variipennis, sy’n cario’r firws, yn gyffredin yn y trofannau ac ardaloedd cynnes Awstralia a Gogledd America. Yn yr ardaloedd hynny mae’r stoc yn meddu ar wrthiant naturiol.  Ond nid felly yng ngwledydd Ewrop. Ers dechrau’r ganrif bu trafod a fyddai’r gwybedyn yn symud i Ewrop o ogledd Affrica yn sgil cynhesu’r hinsawdd. Mae hyn wedi dechrau digwydd yn araf bach, ond mewn stori sy’n tanlinellu’r effeithiau dramatig ac annisgwyl newid hinsawdd o gyfeiriad arall y daeth yr argyfwng presennol. Wrth i’r tymheredd yng ngogledd Ewrop gynhesu, mae ein piwiaid cynhenid yn tyfu’n gynt a leinin eu cyllau yn teneuo. Y newid yma sy’n galluogi i’r firws epilio, nid yn unig yn y gwybed estron, ond yn ein gwybed ni. Ond nid straen gogledd Affrica y firws sydd yn lledaenu, ond un o De Affrica, sydd wedi’i gario rywsut i ogledd Ewrop. Nid oes unrhyw berygl i bobl o’r firws hwn. Ond mae’n rhaid gofyn y cwestiwn pa glefydau eraill – gan gynnwys clefydau pobl – y byddwn yn eu gweld yng Nghymru yn sgil y newidiadau yr ydym wedi ei achosi i’n hinsawdd.

Un o hanesion archaeolegol hynotaf y blynyddoedd diwethaf yw’r ddadl am Ddyn Fflores, neu’r Hobbit fel y’i bedyddiwyd gan y wasg.  Dair blynedd yn ôl darganfuwyd olion dynol tua 18,000 mlwydd oed ar Ynys Fflores yn Indonesia.  Roedd dau beth yn hynod am yr olion. Un oedd eu bod yn anhygoel o fach – oedolyn tua un metr (3 tr) o daldra gyda phenglog dim ond maint grawnffrwyth (ymennydd o ddim ond 380 cc, o’i gymharu â 1350-1400 cc y dyn modern, neu 750 Homo habilis, y dyn cyntaf.) Mae’r lluniau sy’n eu hail greu yn dangos nad ydynt yn cyrraedd ond ychydig yn uwch na’n pengliniau ni. Does ryfedd eu bod wedi’u bedyddio ar ôl cymeriadau bach blewog J.R.R. Tolkein. Yr ail ryfeddod yw eu tras. Tan yn ddiweddar ‘roedd dadl gref mai enghreifftiau oeddynt o Homo sapiens yn dioddef o microceffali – cyflwr patholegol ymysg y boblogaeth fodern. Ond ym mis Medi cyhoeddwyd efallai’r dystiolaeth gryfaf eto am wir natur y bobl fach. Astudiodd Matthew Tocheri, o’r Sefydliad Smithsonian yn Washington, esgyrn arddwrn y sgerbydau. Fe welodd yn syth eu bod yn ymdebygu i rai tsimpansî neu gyn-ddynion Australopithecus yn hytrach na’n rhai ni.  Mae’n debyg y bydd disgrifiadau o esgyrn traed ac ysgwyddau’r Hobbitiaid hefyd yn cefnogi’r dybiaeth. Hynodrwydd hyn, os yw’n wir, yw ei bod yn dangos i rywogaeth wahanol o ddyn, Homo floresiensis, gyd-oesi â ni hyd at ddim llai na  18,000 mlynedd yn ôl.  Y mae hyn ymhell ar ôl diflaniad Dyn Neanderthal, tua 24,000 mlynedd yn ôl a marwolaeth yr Homo sapiens cyfan hynaf yng Nghymru sydd wedi goroesi – Ladi Goch Pafiland, o thua 26,000 mlynedd yn ôl.

Ond ar ôl yn gyntaf eu darogan yn ddamcaniaethol, mae Ffisegwyr o Brifysgol Berkeley newydd ddarganfod organebau sydd yn llawer hwn na hyn ac sy’n dal yn fyw!  Edrychodd Buford Price ar ddognau o rew o 3 km o dan wyneb yr Antarctig a Grønland a gweld fod yno ficrobau sy’n dal yn fyw ar ôl 100,000 o flynyddoedd er gwaethaf y tymheredd o -55ºC a’r pwysedd o 300 atmosffer. Cynhelir eu metabolaeth gan yr ychydig hydrogen a methan a ddaw o swigod bach gerllaw. Gobaith fersiwn newydd o waith cartref Ysgol Bryntâf ers talwm – “Hunangofiant hen feicrob”?


Pynciau: Hunanaberth, Clefyd y Tafod Las, Yr Hobbit, Meicrobau hynafol