Tybed ai mewn ffreipan non-stick y paratowyd eich brecwast y bore yma ? Teflon – enw bedydd y polymer PTFE – sy’n gyfrifol am y briodoledd holl bwysig. Bu hyn yn y newyddion ar ddau achlysur yn ddiweddar. Yn gyntaf am fod ei olynydd ar y ffordd. Crëwyd PTFE yn 1938, a’i osod ar offer cegin yn y 1950au. Nid oes dim yn glynu ynddo ac y mae’n medru gwrthsefyll gwres, ond fel y gwŷr pawb, mae’n hawdd iawn ei grafu. Bellach mae arwyddion y bydd modd creu polymerau o 12-FPEK (Poly (ceton aryl ether) fflwrinedig) a fydd yn debyg i Defflon ond yn fwy gwydn a chaled. Anrhegion priodas i’r degawd nesaf mae’n debyg !
Nid y Teflon ei hun, ond y modd y gosodir ef ar y ffreipan oedd testun yr ail sylw. Mae Teflon mor gyndyn o lynu fel mai prin yw’r mathau o lud y gellir ei ddefnyddio arno. Yn wir dyma pam y cymerodd 20 mlynedd i ddyfeisio’r ffreipan hwylus gyntaf gydag ef. Y gyfrinach oedd gosod y PTFE yn ei le fel emwlsiwn gyda “sebon” arbennig o bwerus o’r enw PFOA (asid perfflwro-octanoig). Oherwydd y defnydd eang ohono, bellach mae olion PFOA i’w ddarganfod yng nghyrff dros 95% o bobl y byd – ynghyd â’r albatrosiaid, eirth gwyn, pandas ac eiconau eraill byd natur. Yn anffodus, fe’i cysylltir hefyd â sawl clefyd, gan gynnwys cancr. Mae cwmnïau megis Du Pont yn prysur geisio darganfod olynydd i hwn hefyd – ac wedi cytuno i roi’r gorau i ddefnyddio PFOA erbyn 2015. Esgus am set newydd o sosbenni bryd hynny hefyd ?
Peth arall a ddylai lynu’n gaeth yw ci wrth sawdl ei feistr wrth gerdded trwy’r wlad – yn arbennig yn y tymor wŷna. Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad gan ddau wyddonydd o Brifysgol yn Sydney am effaith arall mynd â chi am dro yn y wlad. Mewn 90 o safleoedd gwahanol, gwnaethant gyfrif o’r adar oedd i’w gweld o fewn 50 llath i gerddwyr oedd heb gwmni ci a rhai oedd â chi (ar dennyn). Roedd presenoldeb person yn gyrru adar i ffwrdd – ond roedd presenoldeb ci yn dyblu’r effaith – gyda 41% yn llai o adar, a 35% yn llai o rywogaethau i’w gweld. Mae’n debyg bod yr adar yn synhwyro mwy o fygythiad oddi wrth gi. Disgwyliai awduron yr adroddiad y byddai ci heb dennyn yn cael mwy fyth o effaith. Eisioes mae awdurdodau yn y wlad hon, ac yn Awstralia, yn gwahardd cŵn o ambell ardal o bwys naturiol arbennig.
Ond efallai bod ffordd arall i golli pwysau heblaw am fynd â’r ci am dro. Mewn cyfres o erthyglau, gan gynnwys rhai yn yr International Journal of Obesity (fersiwn academaidd o Woman’s Weekly ?) mae’r dystiolaeth fod firysau yn medru creu tewdra. Dangoswyd bod adenofirws-36, firws sy’n perthyn i firws yr annwyd cyffredin, yn annog bôn-gelloedd brasterog dynol i eplesu a llenwi â braster. Os heintir anifeiliaid yn y labordy â firws tebyg o’r enw SMAM-1 maent yn magu pwysau. Amhosibl yw gwneud arbrawf tebyg ar bobl, ond mae 30% o bobl ordew (o’u cymharu â 11% mewn pobl maint cymedrol) yn cario antibodiau i’r firws hon. Awgrym clir eu bod wedi’u heintio. Mae cyffuriau gwrth-firal, megis cidofovir a ddefnyddir i drin dioddefwyr AIDS, yn lleihau effaith tewhau adenofirws-36 mewn llygod. Mae’n rhy gynnar i wybod beth yw cyfraniad haint firal i’r broblem gordewdra byd eang – gan gynnwys y 100 miliwn yn yr Amerig – ond efallai’n wir y gwelwn frechiadau gwrth-dewdra rywbryd yn y dyfodol.
Peth arall yn y dyfodol. Mae fy nghyfeillion yn cwyno am absenoldeb mathemateg o’r golofn hon – felly i’w bodloni hwy hoffwn roi rhaghysbysiad am gynhadledd ar eu cyfer y flwyddyn nesaf. Y flwyddyn 2008 fydd y 450fed ers marwolaeth yr addysgwr mathemategol gwych o Ddinbych y Pysgod, a dyfeisiwr yr “=”, Robert Recorde. Cynhelir y Mathffest hon yng Ngregynog ym mis Gorffennaf. Cysylltwch â’r Athro Emeritws Gareth Roberts, Prifysgol Bangor, am ragor o wybodaeth.
Tybed a fydd rheolwyr Gregynog (a’u hadeiladau technolegol hanesyddol) yn manteisio ar batent technegol newydd ? Mae cwmni Cons Marine o Awstralia wedi patentu dyfais i gadw bwyd môr – megis cimychiaid – yn ffres wrth eu hallforio. Mae’n gostus i’w hedfan yn bell neu ofalu amdanynt yn barhaus. Bydd y ddyfais batentedig yn oeri, puro ac ail-gylchu’r dŵr o fewn yr un uned hwylus. Gobeithio bydd modd i allforwyr Cymru hefyd fanteisio ar y ddyfais hon.
Pynciau: PTFE, Cŵn ar dennyn, Gordewdra, Robert Recorde, Bwyd môr ffres