Pan oeddwn yn fachgen, a’m diddordeb yn y sêr yn cychwyn, telesgop golau mwya’r byd oedd yr un ar Fynydd Palomar yn Ne Califfornia. Bu’n arsyllu’r bydysawd ers 1948 ac mae ei brif ddrych yn mesur 5.08 m anhygoel ar ei draws (200 modfedd – tair gwaith taldra fy ngwraig). Enwyd y telesgop hwn ar ôl George Ellery Hale – a fu’n gyfrifol am adeiladu’r telesgop plygiant mwyaf a welodd y byd erioed (telesgop adlewyrchu sydd yn Palomar). Profiad cynhyrfus i mi yn gynnar yn fy mywyd oedd ymweld ag arsyllfa Yerkes yn Wisconsin, ger Chicago, yn 1968 pan nad oedd ond 71 mlwydd oed. Ac yntau dros gant oed bellach mae’n dal i fynd. Y cyntaf i ddefnyddio’r Hale oedd dyn o’r enw Edwin Powell Hubble a bedyddiwyd y Telesgop Gofod cyntaf ar ei ôl yn 1990. Mae hwnnw bron â dod i ddiwedd ei oes fer ond dramatig, fel yr adroddais yn ddiweddar. Ond mae’r genhedlaeth ddiweddaraf o delesgopau adlewyrchu ar y ddaear yn gwneud i’r Hale, heb sôn am yr Hubble (2.4 m), edrych yn fychan iawn! Ar fynydd Mauna Kea yn Hawaii saif telesgop-dwbl arsyllfa Keck – y ddau offeryn yn 10 m ar eu traws gan greu un uned sy’n ymddwyn fel uned llawer mwy. Ond mae record y byd am un telesgop bellach yn perthyn i Delesgop Gran Canaria yn La Palma. Talwyd amdano ($180 miliwn) yn bennaf gan Lywodraeth Sbaen. Agorodd ei “lygad” ar 13 Orffennaf eleni. Mesura’r prif ddrych 10.4 m ar ei draws. Bydd yn ymuno â’r ymgyrchoedd i ddarganfod planedau yn troi o amgylch sêr eraill a syllu yn ôl mewn amser tuag at ddechrau’r bydysawd.
Ond nid yw popeth yn union fel yr ydych yn ei weld trwy delesgop. Gwell gan rhai o ddefnyddwyr y wê, er enghraifft, ymddangos fel “Avatar”, rhith gymeriad o’u dewis eu hunain. Yn 2003 lansiwyd gwefan/rhaglen gyfan Second Life lle mae’r defnyddwyr yn cymerid arnynt fod yn Avatar i gydfyw a chyfathrachu mewn rhith-fydysawd. Y mae nifer yn defnyddio’r cymeriadau yma wrth gysylltu â’i gilydd ond nid oes rhaid mynd mor bell â hyn. (Mae gennyf un hollol wirion ar fy Yahoo Mail.) Ond gair i gall. Yn ôl ymchwil gan ddau seicolegydd o Brifysgol Connecticut, mae’n bwysig eich bod yn amlwg eich rhyw ! Mae defnyddio Avatar androgenaidd, lle nad yw’n amlwg ai gwryw neu fenyw ydych, yn creu teimlad o ansicrwydd yn y gwyliwr, a bydd yn llai tebygol o ymddiried ynoch.
Ar y llaw arall mae pethau’n symud yn sydyn iawn mewn maes arall o gyfathrebu. Mewn erthygl yn un o’m hoff gylchgronau gwyddonol, Current Biology, mae disgrifiad o’r modd mae Orangau Utan (os dyna’r lluosog) yn gofyn am fananas, er enghraifft, i’w ceidwaid. I ddechrau byddant yn gwneud arwydd sydd yn eu tyb hwy’n cyfleu banana. Os nad yw’r ceidwad yn ymateb o gwbl fel y disgwylid gan yr anifail, mae’n ceisio defnyddio ystum pur wahanol gan osgoi’r ystum a fethodd. Ond os yw’r ceidwad yn hanner deall ac yn cynnig helogan (celery), er enghraifft, yn lle’r fanana ddisgwyliedig – mae’r epa yn canolbwyntio ar yr ystum gwreiddiol ac yn ei ailddefnyddio. Mae’r awduron yn cymharu hyn ag ymddygiad plant bach neu oedolion yn chwarae Charades.
Wrth sôn am ein perthynas â phrimatiaid eraill y ddaear, mewn darlith yn y Genedlaethol yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, mi soniais am ddefnyddio DNA i olrhain hanes dyn a dynoliaeth. Mae llu o ddatblygiadau yn ddiweddar yn y maes hwn. Ond mae darganfyddiadau mwy traddodiadol yr archeolegydd yn llawn mor gynhyrfus. Mae teulu anhygoel y Leakey newydd gyhoeddi darganfyddiad cynhyrfus arall o lwch a cherrig gogledd Kenya. Ar hyn o bryd, credir bod Homo sapiens, sef chi a fi, yn ddisgynyddion Homo erectus ychydig gannoedd o filoedd o flynyddoedd yn ôl. A bod yntau, yn ei dro, yn ddisgynnydd Homo habilis, y cyntaf o’n genws, tua 1.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Y darganfyddiad newydd yw darn o safn y gellir ei dyddio i 1.44 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae tîm Meave a Louise Leakey yn dadlau mai o H. habilis y daw. Os yw hyn yn wir bu i’r ddwy rywogaeth gyd-fyw yn yr Affrig am yn agos i hanner miliwn o flynyddoedd ! Dywed Fred Spoor o Brifysgol Llundain, efallai bod yr H. erectus yn bwyta mwy o gig, tro bo’r H. habilis yn fwy dibynnol ar blanhigion. Mae hyn wedi creu gryn gynnwrf ymysg y paleontolegwyr ynghlwm â manylion ein tarddiad ni. Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mae’n biti nad oes modd defnyddio telesgop newydd Gran Canaria i edrych ar y darn hwn o’n hanes !
Pynciau: Telesgop Gran Canaria, Avatar, Ymofyn Banana, Homo habilis