Barn 6 (2007)

Yn ôl “Y Bruce”, mihifir-mihafar yw’r Gymraeg am freemartin. Dyma’r term ar gyfer fuwch sy’n hesb oherwydd iddi rhanni croth gyda gefail wryw.  Y llawfeddyg byd enwog John Hunter, a fu’n gyfrifol am amgueddfa Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, a wnaeth y cysylltiad yn ôl yn y 18 ganrif.  Bellach mae grŵp o Brifysgol Sheffield wedi dangos ffenomen gyffelyb – er, yn ffodus, ddim mor eithafol –  mewn pobol. Trwy astudio cofnodion plwyf o’r Ffindir rhwng 1734 a 1888, gwelwyd fod merch a oedd yn efaill i frawd yn 25% llai tebygol o gael plant nag efaill i chwaer. O’r rhai felly a gafodd plant, ar gyfartaledd, roedd y nifer yn ddau yn llai. Roeddynt hefyd yn 15% yn llai tebygol o briodi.  Gan fod teuluoedd heddiw cymaint yn llai, mae darganfod effeithiau o’r fath yma trwy ddefnyddio ystadegau cyfoes yn llawer mwy anodd. Mae’n anodd meddwl fod yr un peth yn wir am rywogaethau sy’n geni nifer o epil ar yr un pryd. Byddai hyn yn peryglu parhad yr hil.

Y mis hwn cyhoeddwyd gwybodaeth newydd am un felly – sef y gath.  Pan oeddwn yn blentyn, un o’m hoff lyfrau oedd Just so stories Rudyard Kipling; a’m hoff stori i gyd oedd yr un am y gath a fynnai cerdded ar ei phen eu hun.  Stori yw hwn am darddiad anifeiliaid dôf. Os ydych erioed wedi meddwl o ble daeth y creaduriaid yma i’n haelwydydd – mae dadansoddiadau o’u genynnau wedi dod o hyd i’r ateb. Ymddengys fod pum dosbarth cytras o gathod gwyllt (Felis silvestris) yn bodoli yn  Ewrop ac Asia, sef cathod gwyllt Ewrop, De’r Affrig, Canol Asia, Anialwch China a’r Dwyrain Agos.  O’u cymharu â holl gathod dôf y byd – roedd yn glir bod ein cyfeillion domestig i gyd yn disgyn o’r cathod gwyllt sydd heddiw yn byw yn y tiroedd o Dwrci i Mesopotamia; sef gath wyllt y Dwyrain Agos.  Tybed a’i Abraham oedd i gyfri ? Ond, mae fy nghopi o’r Gwyddoniadur Cymreig yn datgan nad oes sôn am gathod dôf yn yr Hen Destament o gwbl.

Erbyn i chwi ddarllen hwn mi fyddwn yn gwybod ffawd rhywbeth arall, nid llawer mwy na chath,  sy’n cripian o gwmpas yn ofalus a llechwraidd. Ond nid ar wyneb y ddaear – ond ar y blaned Mawrth. Ym mis Medi 2006 cyrhaeddodd Opportunity, sef robot diweddaraf NASA i’r blaned goch, ymyl crater o’r enw Victoria. Mae Opportunity a’i efaill Spirit wedi bod yn sbecio o gwmpas ers Ionawr 2004. Roedd y disgwyl y byddent yn weithredol am ryw  bedwar i bum mis, ond er mawr foddhad i wyddonwyr NASA maent o hyd yn gweithio – er bod Spirit yn llusgo un olwyn ddiffrwyth bellach. Dadansoddwyd creigiau a thynnwyd cannoedd o luniau anhygoel dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r rhain yn cyfranni at y syniad fod Mawrth, fel y ddaear, wedi bod yn wlyb yn y gorffennol. Petai hyn yn wir, mi fyddai’n cynyddu’n sylweddol y posibilrwydd fod bywyd o ryw fath yn, neu o leiaf wedi, bodoli yno. O bell, mae modd gweld haen o greigiau golau yn y clogwyni sy’n ffinio Victoria. Credir mai hwn yw arwynebedd y blaned biliynau o flynyddoedd yn ôl pan ffurfiwyd y crater. O bosibl yno mae’r dystiolaeth angenrheidiol. Y broblem ydy, os eith Opportunity i lawr dros ymyl y crater, efallai na fydd modd iddo ddychwelyd oddi yno. Mi fydd yn garcharor. Gobeithio fod o leiaf un bywyd bach ar ôl i’r “gath” arbennig iawn yma.

Yn ôl ar y ddaear, mae’r wraig yn dathlu buddugoliaeth. Cyndyn iawn wyf i dderbyn dilysrwydd y rhan fwyaf o’r hen feddygyniaethau. Ond y mis hwn cadarnhawyd yn y Lancet fod un o’i ffefrynnau – Echinacea – yn wirioneddol amddiffyn rhag yr annwyd, a hefyd yn cwtogi’r cyfnod mae’r annwyd yn para. Mi ddylai’r ymchwilwyr wedi gofyn i’r wraig – ac arbed holl gost eu hymchwil !


Pynciau: Mihifir-mihafar, Cathod, Mawrth, Hen feddygyniaeth