Mae Taz mewn trafferth! Cyflwynwyd y byd i Ddiafol Tasmania gan gymeriad cartŵn hoffus a phoblogaidd Looney Tunes, ond mae’r anifail go iawn, sy’n debyg i gi bach, mewn peryg difrifol o ddiflannu oddi ar y ddaear. Ar un adeg bu’r anifeiliaid bolgodog (marswpial) yma’n gyffredin trwy Awstralia, ond bellach maent yn gyfyngedig i ynys Tasmania. Tua 1996 ymddangosodd math o gancr ffyrnig ar wynebau’r creaduriaid. Bellach mae i’w weld dros 56% o arwynebedd yr Ynys, gyda lleihad o 80% yn y boblogaeth. Ychydig iawn o anifeiliaid dros ddwy flwydd oed sydd ar ôl – maent fel rheol yn byw chwech i wyth mlynedd. Ar y cychwyn tybiwyd mai firws oedd yn gyfrifol – ond methwyd â darganfod yr un. Mae’n ymddangos bod y cancr yn un o’r unig ddau sy’n uniongyrchol heintus – hynny yw’r celloedd cancr eu hunain sy’n lledu wrth i’r anifeiliaid gyffwrdd. (Cancr gwenerol mewn cŵn yw’r unig enghraifft arall.) Mae’n debyg bod y clefyd yn ymledu wrth i’r creaduriaid ffyrnig ymladd dros y burgyn sy’n fwyd iddynt. Nid oes unrhyw olwg eu bod yn datblygu gwrthiant, ac nid oes yr un driniaeth. Mae awdurdodau Tasmania yn ceisio eu hachub trwy alltudio poblogaeth iach i benrhyn Tasman, a fu unwaith yn garchar i ddihirod gwaetha’r byd. Yno, tu ôl i lif oleuadau, jetiau dŵr a gridiau gwartheg gobeithir gwarchod Taz hyd nes y deuir o hyd i driniaeth iddo.
Newyddion da arall i fyd yr anifeiliaid. Ar ôl blynyddoedd o’i ffieiddio, mae prawf Draize wedi’i wahardd yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyma’r prawf fu’n “eicon” i fudiadau gwrth arbrofion ar anifeiliaid ers degawdau. Yn y prawf profwyd diogelwch cosmetigau trwy eu diferu ar lygaid a chrwyn cwningod byw. Ddiwedd Ebrill derbyniodd y corff sy’n gyfrifol am ddiogelwch bod ffyrdd eraill, llawn mor ddibynadwy, ar gael. Bellach, ac eithrio ambell i gemegolyn cymharol wan, mae prawf Draize yn anghyfreithlon. Yn eironig, erbyn 2009 gwaherddir bron pob prawf cosmetigau ar anifeiliaid byw.
Bydd newid arall yn y gyfraith, yn yr Unol Daleithiau’r tro hwn, o bwys mawr i bobl. Bron bob wythnos bellach cawn adroddiadau fod genyn wedi’i ddarganfod sy’n gysylltiedig â rhyw gyflwr neu’i gilydd – o ddeallusrwydd ac alcoholiaeth i glefyd y galon a chancr y fron. Un canlyniad i hyn yw y bydd yn fwyfwy ymarferol i ddarogan dyfodol unigolion – datblygiad sy’n gwireddu ofnau awduron ffuglenni gwyddoniaeth ers amser Jonathan Swift a’i Struldbrugiaid – a oedd yn gwybod o’u genedigaeth y byddent yn byw am byth – ond yn heneiddio fel pob meidrolyn. Un canlyniad sinistr fyddai i gwmnïau yswiriant wrthod yswirio wedi iddynt gael gwybod bod unigolyn yn debygol o ddatblygu anabledd arbennig. Diwedd Ebrill fe basiwyd yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr – o 420 i 3 – gwahardd cwmnïau rhag gwrthod yswiriant, nac unrhyw un i wrthod swydd, ar sail dadansoddiad geneteg yn unig. Disgwylir i’r Senedd a’r Arlywydd gadarnhau hyn yn yr wythnosau nesaf. Mi fydd hyn yn caniatáu holl fanteision dadansoddiadau o’r fath – heb ofni y byddai’r canlyniadau yn cael eu camddefnyddio.
Hanes arall am enynnau a dynnodd fy sylw’r mis hwn oedd hanes Lonely George. Yn ôl y Guiness Book of Records y cawr-grwban yma o ynys Pinta yn y Galapagos yw’r creadur prinnaf yn y byd. George yw’r olaf o’i fath. Ers dros 30 o flynyddoedd bu pob ymgais i ddarganfod priod iddo yn ofer. Ond mewn erthygl yn y rhifyn cyfredol o Current Biology adroddir sut aethpwyd ati i ddadansoddi DNA mitocondriaidd crwbanod o ynysoedd eraill y Galapagos. DNA mitocondriaidd yw un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o olrhain perthynas pobl. (Darllenwch The Seven Daughters of Eve gan Bryan Sykes am ddisgrifiad ardderchog.) Ar ynys Isobela, tua 100 km o Pinto, darganfuwyd haid o grwbanod yn cario’r un nodweddion genynnol mewn wyth o’r 27 anifail a ddadansoddwyd. Yn anffodus i George, gwryw arall, yw’r perthynas agosaf a ddarganfuwyd hyd yn hyn – ond mae’r awduron yn credu ei bod yn debygol iawn y deuir o hyd i fenyw addas ymysg yr 1-2,000 o grwbanod yr haid. Pob lwc George !
Pynciau: Diafol Tasmania, Prawf Draize, Genynnau clefyd, Lonely George