Barn 3 (2007)

Roedd yn anhygoel. Streipiau coch ar draws map gofod o Ogledd Iwerddon yn dangos yn union lle syrthiodd cawodydd Mai 3 a 4 1986. Nid rhaglen gynnar Siân Lloyd, merch y tywydd, oedd hwn ond allbwn camera ymbelydredd gamma (y math mwyaf treiddiol) mewn awyren yn hedfan 56 metr uwchben yr ynys yn ystod 2005 a 2006. Roeddwn yng nghynhadledd flynyddol COGER (Co-ordenating group on Environmental Radioactivity) yn Loughborough. Yno ar y sgrin roedd amlinell gwaddodion yr isotop ymbelydrol Caesiwm-137 a groesodd Ewrop o adweithydd rhif 4 atomfa Chernobyl un mlynedd ar hugain yn ôl. Roeddent  yn cofnodi cystal â’r un radar, lle bu cawodydd penwythnos Gŵyl y Banc y flwyddyn hwnnw. Mae i bob isotop ei nodweddion gamma. Felly ar fap arall datgelodd  ddosbarthiad tair elfen naturiol ymbelydrol (Potasiwm-40, Wraniwm a Thoriwm) gwahanol greigiau’r Dalaith yn glir. Haenau craig noeth mynyddoedd Mourne (na Beanna Boirche) a’u chopaon wedi’i gorchuddio â mawndir. Y naill yn fwy ymbelydrol na’r llall.  Lludw pwerdai, calchfaen a gwenithfaen; pob un â’i nodweddion ymbelydrol naturiol. Enghraifft hynod o ddefnydd cynyddol arsylliadau o awyrennau a lloerennau.

Yna papur yn sôn am lecynnau mwy cyfarwydd: yn cynnwys Pier Bangor.  Mesur trosglwyddo ymbelydredd sy’n hanu o waith prosesu Sellafield yng Nghymbria i’r tir o’r môr trwy ewyn stormydd y gaeaf. Da oedd clywed fod fy Mhier lleol yn ddilychwin, ond y mae crynodiad annisgwyl o Tecnetiwm-99 i’w ganfod mewn un man ar draeth Llanddwyn. Nid yw’n agos at fod yn beryglus – ond os oes unrhyw un o ddarllenwyr Barn yn gwybod sut y daeth yno – gadwech i COGER wybod !  Beth bynnag, gyda lefel y môr yn codi yn sgil cynhesu byd eang, efallai mai diflannu bydd hanes traeth Abermenai. Ond mi ‘roedd hyn yn poeni eraill yn y gynulleidfa. Saif  rhan fwyaf o safle Sellafield lai na 10 metr uwchben  y môr. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’n  safleoedd niwclear felly – gan gynnwys ein Storfa Gwastraff Ymbelydredd Isel Cenedlaethol yn Drigg. Holl bwrpas storfa hir hoedlog yw cadw’r gwastraff yn sych. Anodd gwneud hyn o dan y môr.

Hanes mwyaf dramatig y gynhadledd oedd ymateb yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd (HPA) yn Didcot i farwolaeth Alexander Litvinenko yn 2006. Diwrnodau’n unig cyn ei farwolaeth ar 23 Tachwedd 2006 sylweddolwyd fod y newyddiadurwr o Rwsia wedi’i wenwyno â’r isotop Poloniwm-210. Er bod Po-210 yn neilltuol o ymbelydrol – mae bron yr holl egni ar ffurf ymbelydredd alffa (y lleiaf treiddiol). Gall haen o bapur neu wydr ei guddio. Peth hawdd fyddai ei gario mewn ffiol trwy gyfundrefn diogelwch maes awyr – sy’n ddibynnol ar fesur ymbelydredd gamma. Unwaith yng nghorff Mr Litvinenko roedd holl egni’r alffa yn cyrraedd ei feinweoedd yn uniongyrchol – ond heb ddianc drwyddynt. Nid oedd modd ei ganfod o’r tu allan. Penderfynwyd asesu’r gwenwyn trwy ei fesur yn wrin y rhai hynny y tybiwyd eu bod wedi’u llygru. Rhaid oedd gweithio o fewn oriau i osgoi panig ymhlith cyhoedd ardaloedd bwytai ffasiynol y West End. I ddechrau nid oedd protocol na’r cyfarpar i ddelio â’r holl ddognau. Prynwyd cannoedd o boteli dŵr mineral o Tesco a phentwr o “Bagiau am Fywyd” gan Sainsbury i’w casglu. Y broblem annisgwyl oedd nad oedd Saesneg nifer o staff y tai bwyta yn ddigon da i ddeall y cyfarwyddiadau am  beth i’w wneud â’r poteli!  Yn ystod y mis wedi’i farwolaeth mesurwyd dros 600 sampl, a bu rhaid gofyn am gymorth sawl labordy ledled y wlad. Ar un adeg tybiwyd bod problem sylweddol o lygredd ar seddau awyrennau – a’r rheiny wedi’u cario i Gymru i’w glanhau. Bellach mae’r argyfwng drosodd – a’r holl achos yn nwylo’r awdurdodau. Tua 50-60 o unigolion gafodd eu llygru – teulu, staff y gwestai a’r ysbyty yn bennaf.  Yn ffodus, ni ddylai’r un ohonynt ddioddef yn yr hirdymor, ond mae’r HPA wedi hogi’n sylweddol eu sgiliau ymateb i argyfwng ymbelydrol.


Pynciau: Chernobyl, Sellafield, Alexander Litvinenko