Mae gen i gyfaill sydd yn gweld y byd mewn du a gwyn – yn llythrennol felly. Nid oes ganddo’r celloedd yn ei retina sy’n canfod llyw. Iddo ef mae’r byd megis y ffilmiau monocrom sydd yn dechrau ail ymddangos ar ein sgriniau. Diddorol, felly, oedd darganfod yn ddiweddar mae pethau go sâl yw mamaliaid am weld lliw beth bynnag. Mae gan anifeiliaid syml pedwar synhwyrydd lliw – proteinau Opsin – ar gyfer y sbectrwm o goch i’r uwch-fioled. (Mae mnemonig hwylus ar gyfer trefn y lliwiau; “Cafodd Owain Meilir Grëyr Glas I Frecwast”.) Cedwir y cyfan mewn pysgod, amffibiaid, ymlusgiaid ac adar – ond mae dyn a’r mamaliaid uwch yn brin o’r synhwyrydd tonfeddi canolig a’r synhwyrydd tonfeddi byr (SWS2 – acronym cyfarwydd ?). Fel arfer mae mamaliaid yn lliwddall coch-gwyrdd – ac eithrio’r Primatau (dyn a’r epaod); lle esblygodd un o’r ddau synhwyrydd sy’n weddill yn ddwy ffurf i lenwi’r bwlch. Ceir lliw ddallineb pan fod un o’r tri yn absennol. Ond yn awr wrth archwilio eu DNA, mae gwyddonwyr yn Awstralia wedi darganfod mai hanes gwahanol sydd i’r mamaliaid symlaf – y monotremau, yr unig famaliaid sy’n dodwy wyau. Mae’r Platypws a’i deulu wedi cadw SWS2 – ac yn gweld y byd mewn lliwiau gwahanol i ni ! Gwahanodd linach y monotrem a’n llinach ni tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, collwyd SWS2 gennym wedi hynny.
Ffotonau yw elfennau goleuni. Ond elfen is-atomig arall sydd wedi’i ddal yn llif oleuadau’r ffisegwyr eleni. Cymaint yw’r cynnwrf fe’i bedyddiwyd yn “Ronynnyn Duw” – The God Particle. Ei enw ffurfiol yw Boson Higgs ar ôl yr Albanwr Peter Higgs a’i proffwydodd yn ôl yn 1964. Mae ei bodolaeth yn hanfodol os yw’r disgrifiad cyfredol o wneuthuriad y bydysawd yn gywir. Ond ydy e’n bod mewn gwirionedd ? Nid oes neb wedi’i weld a sicrwydd. Yr Higgs fyddai’n gyfrifol am fas yn y bydysawd – rhywbeth nid ansylweddol ! Hebddo – rhaid dechrau eto. Yn hwyrach eleni cwblheir adeuladu’r Large Hadron Collider yn CERN ger Genefa ar gost o dros biliwn o bunnoedd. Un o’i brif amcanion yw darganfod ronyn Duw. Yn y cyfamser mae’r cynnwrf yn codi. Yn dilyn patrwm yr oes, mewn blog yn gynharach eleni y cyhoeddodd gwyddonwyr o Fermilab ger Chicago eu bod yn meddwl eu bod efallai wedi gweld olion y gronyn hollbwysig. Ers hollti’r atom ynghanol y ganrif ddiwethaf rydym wedi symud tuag at well dealltwriaeth o wead y bydysawd. Tybed pa mor agos ydym at yr ateb. Hwn fydd un o brif geisiadau ein cenhedlaeth ni. Tybed ?
Un llwyddiant ein cenhedlaeth yw gwaredigaeth y Frech Wen o wyneb y ddaear. Ers 1978 ni fu achos o’r clefyd hon, a fu unwaith yn felltith trwy’r byd. Y target mawr nesaf yw Polio. Ond mae anawsterau annisgwyl wedi codi, a’r broses o imiwneiddio byd eang wedi syrthio’n ysglyfaeth i’r “Rhyfel ar Derfysg”. Yn wreiddiol gobeithiodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gorffen y gwaith erbyn 2000 – ac yna 2005. Ond ar ben yr anawsterau ymarferol o weithio mewn gwledydd tlawd – yn aml mewn amgylchiadau o ryfel – mae sibrydion ar led mewn sawl gwlad allweddol mai cynllwyn y Gorllewin i niweidio’r byd Mwslim yw’r ymgyrch brechi. Yng Ngogledd Nigeria y bu hwn yn ddylanwadol yn 2003 ac yn fwy diweddar yn Pacistan, Afghanistan a’r India. Ymatebodd clerigwyr hyn trwy gyhoeddi ffatwa o blaid brechi, ond mae mamau o hyd yn mynd a’u plant dim ond yn y dirgel at y clinigau – gan ofni dial. Yn fwy difrifol fyth, mis diwethaf, lladdwyd Abdul Ghani Khan, meddyg hyn o Bacistan gan fom soffistigedig ar ôl ymweld â phentref i annog y brechiad. Er gwaethaf hyn mae’r rhagolygon yn obeithiol.
Pynciau: Lliwddallineb, Higgs, Polio