Pynciau: Adolygiad o 2007
Bu mwy o Wyddoniaeth a Thechnoleg yn y penawdau na’r arfer eleni. Dilyniant y genyn dynol wedi dod bron yn ddigon rhad i’r dyn cyffredin, pob math o glefydau byd-fygythiol, y rhyfel-seibr gyntaf, bôn-gelloedd yn dangos mwy o’u potensial a’r ymryson rhwng gwyddonwyr gwrth-grefydd a’r crefyddwyr yn ffyrnigo. Yn goron i’r cyfan bu’r frwydr eiriol ac athronyddol am ddyfodol ein byd yn y can mlynedd nesaf. Neu o leiaf y darn ohono sy’n holl bwysig i ddynoliaeth a’i chymdeithasau. Yn 2007 dihunodd y byd i oblygiadau cynhesu byd eang. Penllanw hyn ym Mhrydain oedd araith Gordon Brown ganol mis Tachwedd. Ond gyda phoblogrwydd y Prif Weinidog yn gostwng wrth imi ysgrifennu’r geiriau hyn daw teimlad trist o deja vue, wrth gofio am gefnogaeth ddidwyll ei ragflaenydd i faterion technolegol yn ystod ei apoptosis gwleidyddol yntau.
Y broblem i bob gwyddonydd yw bod ei reddf yn galw arno i ddadbrofi pob damcaniaeth. Mae cysgod athroniaeth anwiriad empirig Karl Popper yn drwm ar y ddwy neu dair cenhedlaeth ddiwethaf. Ond ar yr un pryd mae amhendantrwydd yn arwydd o wendid mewn gwleidydd a’n cyfryngwn yn bwydo ar ansicrwydd – MMR, ynni niwclear, effaith trais fideo ar ymddygiad cymdeithas a chnydau GM.
Mis Chwefror cyhoeddwyd pedwerydd adroddiad yr IPCC (International Panel on Climate Change) ac yn Nhachwedd grynodeb o’r cwbl. Wrth geisio bod yn wyddonol onest wrth ddarogan y blynyddoedd nesaf, mae’r adroddiadau yn llawn o ieithwedd ystadegol sy’n ymddangos yn amhendant i’r soundbite. Ond bellach mae hyd yn oed G.W. Bush yn dechrau newid ei ymateb – os nad ei farn. Yn llyfr diweddar y polymath Jared Diamond, Collapse, olrheinir hanes diflaniad gwareiddiadau a chymdeithasau megis y Maya, Ynys y Pasg, Pitcairn a Llychlynwyr Kalaallit Nunaat (Grønland). Cymharir hwy â chymdeithasau eraill sydd wedi goroesi problemau amgylcheddol a phoblogaeth: Japan a Gini Newydd. Nid oes un ateb twt – dibynna bob amser ar deithi’r gymdeithas – boed hynny o’r bôn mewn cymdeithasau bach, neu o’r llywodraeth mewn cymdeithasau mawr amhersonol, fel ni yng Nghymru ac Ewrop.
Mae’n rhaid bod yr IPCC yn weddol agos i’w le. Mae wedi dioddef ymosodiadau o’r ddau gyfeiriad. Enillodd y grŵp, ynghyd â’r gwleidydd Al Gore (i roi wyneb cyfarwydd i’r fenter) Wobr Heddwch Nobel ddechrau Hydref.
Yn fy maes innau, mae’r wybodaeth gynyddol am weithgaredd ein genynnau yn ddigon o ryfeddod. Mis Mehefin cyrhaeddwyd carreg filltir arall ym myd bioleg foleciwlar. Y mis hwnnw derbyniodd James Watson, un o’r tri a enillodd Wobr Nobel am Feddygaeth yn 1962 am ddarganfod strwythur DNA, gopi llawn o’i ddilyniant DNA personol unigryw ar ddwy DVD. Y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes y byd. Bu cost yr hysbyseb hwn i’r cwmni (454 Life Sciences) rhwng 1 a 2 miliwn doler. Erbyn dyddiad y cyflwyniad, ysywaeth, ‘roedd gwelliannau’r dechnoleg robotaidd a ddefnyddir wedi gostwng y pris i ryw gan mil. Cyfyngir y rhan fwyaf o’r genynnau sydd hyd yma wedi’u cysylltu â chlefydau i tua 1% o’r cromosom. Felly gellir dweud bod modd darogan rhagluniaeth yr unigolyn am $1000. Honna Craig Venter, un o brif sylfaenwyr y gyfundrefn robotaidd o ddarllen DNA, ei fod wedi newid ei ffordd o fyw ar ôl gweld ei ddilyniant ei hun. Ymhlith pethau eraill, mae’n cario’r genyn ApoE4, sydd wedi’i gysylltu â chlefyd Alzheimer.
Un effaith dda yn hyn i gyd fydd dyfodiad y dydd pan fydd modd i ddoctoriaid ddarogan sgil effeithiau neu ddiffyg effeithiolrwydd cyffuriau ar eu cleifion. Mae problemau sgîl effeithiau yn un sylweddol trwy’r byd, gyda chanran sylweddol o’r boblogaeth yn dioddef. Llai hysbys yw aneffeithiolrwydd nifer o gyffuriau. Enghraifft enwog yw aneffeithiolrwydd y poen laddwr codein ar filiynau o drigolion Ewrop ac America gan nad oes ganddynt y genyn angenrheidiol i’w newid i forffin yn eu cyrff. Bathwyd yr enw Ffarmacogenomeg ar gyfer y maes newydd hwn sy’n darogan adwaith yr unigolyn i gyffur. Un o’r enghreifftiau prin hyd yma yw effeithiolrwydd Herceptin, a ddaeth i sylw’r cyhoedd mewn protest gyhoeddus yn y Cynulliad y llynedd. Creir proffil genomig y tiwmor unigol i weld effeithiolrwydd y cyffur ers sawl blwyddyn. Ond mewn datblygiad hanesyddol eleni, mae’r cwmni enfawr Johnson & Johnson wedi dechrau trafodaethau gydag awdurdodau trwyddedu cyffuriau ym Mhrydain er mwyn medru derbyn tâl sylweddol am gyffur trin cancr – ond dim ond pan welir gwellhad yn y claf y gwneir hynny. Bydd hyn yn gosod pwysau sylweddol ar wyddonwyr y cwmni i ddarganfod ffyrdd o broffwydo’n gywir pa gleifion fydd yn ymateb. Gobeithir y bydd cytundebau o’r fath, o’r diwedd, yn ysgogi’r diwydiant Ffarmacolegol i ddefnyddio ei rym masnachol i’r cyfeiriad hwn.
Daeth maes arall o feddygaeth lle mae angen buddsoddi sylweddol i’r amlwg sawl gwaith yn ystod 2007. Ni phrofodd fy nghenhedlaeth i, na’r nesaf, gymdeithas lle bo clefydau megis y Dicáu neu’r Frech Wen yn arglwyddiaethu. Anghyfarwydd, felly, yw bygythiad y clefydau “newydd” sydd wedi dechrau heintio penawdau’r papurau – SARS, XDR-TB a E.coli 0157:H7 ymhlith pobl, a Bluetongue a H5N1 ymhlith anifeiliaid neu adar. Er nad oes cysylltiad gwyddonol rhwng nifer o’r rhain mae eu lledaeniad amlwg yn digwydd oherwydd gwahanol agweddau ar ymddygiad dynoliaeth. Annheg pwyntio’r bys i gyfeiriad gwleidyddion heddiw – neu hyd yn oed y DEFRA anffodus – mae’r problemau wedi bod yn cronni ers degawdau. Math o’r diciâu, neu’r ddarfodedigaeth, yw Extensive Drug Resistant – TB (XDR-TB), sydd wedi esblygu’r ddawn i wrthsefyll nid un ond dwy linell amddiffyn o antibiotigion. Cyflwynwyd Salvarsan, yr antibiotig cyntaf yn 1910 a’r Penicillin enwog yn 1928. Mater o amser oedd hi, waeth faint o ofal a gymerwyd, tan i’r bacteria yr oeddynt yn eu lladd datblygu gwrthiant iddynt. Dyma enghraifft syml o ddeddfau detholiad naturiol Charles Darwin. Yn sicr mae’r gorddefnydd a defnydd diangen o antibiotigion wedi prysuro’r dydd. Erbyn 1984 roedd hanner achosion diciâu’r Unol Daleithiau yn medru gwrthsefyll o leiaf un antibiotig. Yn anffodus mae modd i facteria rannu’r “wybodaeth” ymysg ei gilydd – a’r ystod gwrthiant felly’n ymestyn o hyd a hynny’n gyflymach o lawer na’r cyflymder y darganfyddir antibiotigion newydd. Rydym yn digwydd byw yn ystod y cyfnod lle mae oes yr antibiotig yn dirwyn i ben. Efallai y byddai cael Matron ym mhob ward a mwy o olchi dwylo wedi arafu’r broses, ond nid oedd byth modd osgoi hyn. Yn ffodus nid yw XDR-TB yn lledaenu’n sydyn trwy boblogaeth iach, ond mae dioddefwyr HIV yn arbennig o agored iddo. Does syndod, felly, bod epidemig o XDR-TB wedi bodoli yn Ne Affrica ers diwedd 2006. Ym Mhrifysgol Bangor ‘rydym yn ymchwilio i’r anawsterau arbennig wrth drin y ddau glefyd yr un pryd. Yr un yw hanes MRSA, un arall o acronymau penawdau 2007 – bacteriwm gwahanol, ond yr un stori o ddatblygu gwrthiant i antibiotigion.
Firysau, nid bacteria, yw SARS, Bluetongue a H5N1. Nid ydynt erioed wedi ymateb i antibiotigion – er yr holl bresgriptiynnau a fynnwyd ar eu cyfer gan ddioddefwyr annwyd a ffliw. Rhesymau eraill sy’n gyfrifol am ledaeniad y straeniau newydd ohonynt mor sydyn o gwmpas y byd. Yn bennaf, symudedd pobl yn yr unfed ganrif ar hugain. Ond soniais am berthynas newid hinsawdd â Bluetongue yn rhifyn Tachwedd o Barn. Yn ffodus i ni, ni welodd 2007 y pandemig firws hir-ddisgwyliedig. Ni ellir ond gobeithio pan ddaw’r nesaf y byddwn yn barod gyda thriniaeth generig o ryw fath. Tamiflu yw’r cynnig diweddaraf, ac mae degau o filiynau ledled y byd wedi’i gymryd. Ond, nid yw heb ei anawsterau. Yn 2007 rhybuddiodd Prif Swyddog Meddygol Japan na ddylid ei roi i bobl ifanc, wedi i 15 ohonynt farw neu frifo’n ddrwg drwy neidio o adeiladau ar ôl ei gymryd. Mae’n amlwg bod iddo sgil effeithiau niwrolegol.
Rhyfel rhwng dyn a natur fu feddygaeth erioed, felly. Gwelodd 2007, ysywaeth, fath newydd sbon o ryfel – Seibr-ryfel. Ie, yr un Seibr a’r Cybermen a ddychwelodd i Gaerdydd yng nghwmni’r Doctor ar ddiwedd 2006. Ond na, nid y nhw, ond y Rwsiaid oedd yr ymosodwyr yn y Seibr-ryfel gyntaf hon. Mae’n debyg fel adwaith i symud cofeb rhyfel Sofietaidd o ganol Dinas Talinn, ym mis Ebrill a Mai 2007 dioddefodd gwefannau llywodraeth a banciau Estonia ymosodiad o fath newydd. Anfonwyd “botiau” – math o firws cyfrifiadurol – at filiynau o gyfrifiaduron ledled y byd. Yna fel côr, dechreuodd y cyfrifiaduron hyn anfon negeseuon i gyfeiriadau yn Estonia. Boddwyd y rhwydwaith yno ganddynt. Tybed os bu eich cyfrifiadur “diniwed” chithau yn rhan o’r ymgyrch ddiweddaraf hon o wlad y Fyddin Goch ? Pwy a ŵyr o ba gyfeiriad y daw bygythiad Seibr 2008 ?