Barn 5 (2007)

Wrth ymchwilio ar gyfer fy narlith yn yr Eisteddfod  Genedlaethol eleni, mi ddes o hyd i ddwy eitem yn ymwneud â genynnau ac iaith. Mae ein dealltwriaeth o arwyddocâd manylion ein DNA yn tyfu wrth y funud, felly ni ddylai fod yn syndod bod hyn yn ymestyn i iaith ac ymddygiad. Rai blynyddoedd yn ôl mi ddes o hyd i bapur am deulu oedd yn methu â dirnad un agwedd greiddiol am iaith – defnyddio’r dyfodol, os cofiaf  yn iawn. Gellid dweud, yn fras, fod genyn am amser  berfau yn absennol yn y teulu hwn. Ym mis Mai cyhoeddwyd adroddiad a oedd yn cysylltu dau enyn (ASPM a microceffalin) sy’n ymwneud â  defnyddio ieithoedd tonyddol – megis Tsieinëeg. Yn y Gymraeg a’r Saesneg nid oes ots os ydych yn defnyddio doh, re neu me ar gyfer gair – ond mewn ambell iaith, megis Tsieinëeg fe all yr un gair cyfleu pethau hollol wahanol yn ôl y sain.  Nid yn unig darganfuwyd gweithgaredd uwch y genynnau hyn ymhlith siaradwyr ieithoedd tonyddol ar draws y byd – ond mae’n debyg ei fod yn wahanol ymysg siaradwyr Saesneg sydd â dawn arbennig i ddysgu’r ieithoedd hyn. Eisioes gwelwyd strwythur gwahanol yn ymennydd y bobl hyn. Yn yr un mis cyhoeddwyd papur hynod o ddiddorol yn  Science yn trafod ymateb babanod i ffilmiau fideo o oedolion yn siarad – heb y sain. Ar ôl ychydig amser collodd y babanod ddiddordeb – ond daeth yn ôl yn syth os newidiai’r siaradwr ei iaith. (Saesneg a Ffrangeg yn yr achlysur yma.) Collodd babanod teuluoedd uniaith y ddawn hon wrth gyrraedd tua 8 mis, ond fe barhaodd ymhlith babanod o deuluoedd dwyieithog. Esboniad yr awduron yw bod pob babi yn barod ar gyfer dysgu sawl iaith – a’i fod yn defnyddio golwg yn ogystal â chlyw i hwyluso hyn. Darganfyddiad hollol annisgwyl – a hollol berthnasol i ni yng Nghymru.

Mae’r dadleuon biolegol dros altrwistiaeth ym myd anifeiliaid yn gyfarwydd inni i gyd. Holl boblogaeth cwch gwenyn yn gweithio ar ran un frenhines yw’r enghraifft glasurol. Mae gennyf gyfaill ym Mangor sy’n astudio mathemateg cyfiawnhad modrybedd cywion adar sy’n cynorthwyo eu neiod a’u nithod (esgusodwch y gair mwys!) yn hytrach na magu epil eu hunain. Un arbrawf yw gweld effaith ar natur y berthynas o osod pwysau bach ar gynffonnau’r modrybedd i’w harafu! Ond fe’m cyflyrwyd i ddarllen am enghraifft ym myd planhigion. Pan fo pryfed yn ymosod ar blanhigyn – eich letys yn yr ardd, er enghraifft – mae’r planhigyn clwyfedig yn cynhyrchu nwyon sy’n rhybuddio’r planhigion o’u cwmpas. (Dyma bwrpas cynhenid aspirin, gyda llaw.)  Fel arfer mae’r cymdogion hyn yn ymateb trwy gynhyrchu cemegolion amddiffyn mewnol – ond mae ambell un yn cynhyrchu cemegolion sy’n ad-dynu pryfed eraill sy’n bwydo ar yr ymosodwyr.  Gan fod gwneud hyn yn bur gostus, yn nhermau biolegol, nid oedd yn amlwg paham y byddai planhigyn yn anfon neges heb gael ei niweidio. Trwy ddefnyddio model mathemategol, ateb dau wyddonydd o Kyoto yn Japan yw ei fod yn bur debygol bod planhigyn gerllaw yn perthyn yn agos – ac mae ymddygiad “altrwistig” y Selfish Gene clasurol sydd yma.

Bu sawl hanesyn am wyddoniaeth dŵr y mis hwn. Un oedd canlyniad “model” arall. Un o’r  blaned Mawrth y tro hwn.  Er ei bod yn ganrif ers i syniadau Schiaparelli am gamlesi cael eu hamau a’u gwrthbrofi, mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol fod cyfaint sylweddol o ddŵr ar y blaned Goch – neu o leiaf wedi bod ar un adeg. Bellach, mae tystiolaeth dda am lannau moroedd eang – tua maint y Môr Tawel ar y ddaear – i’w gweld. Yr anhawster yw bod lefel y glannau yma yn amrywio mwy na milltir mewn uchder, fel petai Bangor yn filltir yn uwch na Chaerdydd. Yn wahanol i’r ddaear, mae  symudiadau tectonig wedi peidio ers 4 biliwn o flynyddoedd – felly nid dyna’r esboniad. Yr ateb, medd Taylor Perron o Brifysgol Berkeley,  yw bod cyfeiriad echel Mawrth yn newid yn ddramatig o bryd i’w gilydd wrth i fynyddoedd tân ffrwydro ac asteroidau daro’r blaned.  Fel y ddaear, wrth i Fawrth droi ar ei hechel mae’r cyhydedd yn dueddol i ymestyn – a’r pegynau agosáu. Wrth newid cyfeiriad yr echel bydd holl siâp y blaned yn newid wrth iddi ystumio i’r amgylchiadau newydd.  Nid yw’n amlwg a fydd y dystiolaeth hon yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y darganfyddir bywyd ar y blaned – fe sychodd y cefnfor arbennig hwn tua 2 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Haf hirfelyn tesog go iawn!


Pynciau: Genynnau iaith, Altrwistaeth, Dŵr Mawrth