Beth yw atgof ? Deall sut mae’r corf cyfan yn ffurfio o’r wy oedd y Greal Sanctaidd yn y 70au pan oeddwn yn fyfyriwr. Deall mecanwaith yr ymennydd sy’n denu diddordeb ieuenctid gwyddonol heddiw. Ceir camau breision yn aml. Ond un gyfrinach o hyd yw natur ffurfio atgofion. Eleni gosodwyd darn pwysig o’r esboniad yn ei lle. Ers amser ystyriwyd fod y ffordd mae celloedd yr ymennydd yn cydgysylltu yn bwysig. Megis cysylltiadau cylchedau trydanol. Yn wahanol i gylched artiffisial, gall pob un o’r miliynau o gelloedd ffurfio cyswllt a degau o filoedd o rhai eraill. Mae atgofion wedi’u cadw yn y patrymau dirifedi yma. Wrth golli’r patrymau cellir yr atgofion. Credwyd fod yr aml ddefnydd o unrhyw gysylltiad unigol yn ei chryfhau. Ond nid oedd modd gweld hyn yn digwydd mewn ymennydd byw. Bellach mae grŵp o’r Eidal a Sbaen wedi darganfod un moleciwl arbennig o brotein sy’n creu’r cysylltiadau hyn. Fe’i ddarganfuwyd wrth edrych ar ymennydd llygoden a oedd wedi dysgu blincio’i llygaid wrth glywed sŵn arbennig. Wrth edrych ar ymddygiad llygoden heb y protein hwn – gwelwyd nad oedd modd iddi na ddysgu na chreu’r cysylltiadau rhyng-gellol arferol. Trwy ymestyn y gwaith yma, daw gwell dealltwriaeth a thriniaeth ar gyfer clefydau’r côf – megis cyflwr Alzheimer – a ffyrdd i gryfhau’r côf yn gyffredinol.
Arhoswn ym myd y celloedd – “briciau’r” corff. Yn y rhan fwyaf o’n celloedd mae nifer o organynnau bychain o’r enw mitocondria. Mae hanes hynod i’r rhain gan eu bod, mae’n debyg, yn weddillion bacteria a ddaeth i lechu yn ein celloedd ryw dau biliwn o flynyddoedd yn ôl – ymhell cyn ymddangosiad dyn – ac sydd erioed wedi ein gadael. Enghraifft ryfedd o gydfyw symbiotig. Bellach defnyddir genynnau’r mitocondria i olrhain ein hachau ac ‘rydym oll yn ddisgynyddion i’r “Efa mitocondriaidd”, mam ni oll, a bu fyw tua 250,000 o flynyddoedd yn ôl. Y mitocondria sy’n darparu y rhan helaethaf o egni celloedd iach y corf. Ond nid felly mewn celloedd cancr. Ynddynt, ers blynyddoedd, bu’n hysbys fod yr organynnau bach hynafol yn cysgu. Yn awr mae Evangelos Michaelakis o Brifysgol Edmonton, Canada, wedi dangos fod cemegyn syml o’r enw dicloroasetat (DCA) yn dihuno’r mitocondria yma. Ar yr olwg gyntaf mi ddylai hyn ffyrnigo’r cancr – ond mae iddynt swyddogaeth holl bwysig arall. Mitocondria effro sy’n cychwyn y broses o hunanladdiad celloedd afiach sy’n nodweddi meinweoedd iach. Mae’r gwaith cynhyrfus hwn yn awr yn symud at dreialon clinigol. Ardderchog ? Na, mae anhawster annisgwyl. Mae DCA yn hen gyffur cydnabyddedig ac yn amhosibl ei ail patenti at ddiben newydd – annhebyg y bydd yr un cwmni cyffuriau yn fodlon talu cost enfawr y treialon angenrheidiol ar gyfer dod a’r fath triniaeth syml, rhad ond ddi-broffit i’r farchnad. Mi fyddai hynny’n trasiedi.
I’r rhai hynny ohonom sy’n gobeithio darganfod tystiolaeth am fywyd gwybodus tu hwnt i’r Ddaear, roedd gan y ffisegydd ac enillydd Gwobr Nobel Enrico Fermi cwestiwn bachog ond ddiflas. Yn y 50au gofynnodd – os oeddent yn bodoli – “Ble’r oeddynt “. Wedi’r cyfan os oedden ninnau wedi datblygu’r ddawn i symud i’r gofod ar ôl ryw gannoedd o filoedd o flynyddoedd o fodolaeth yn unig – onid dylai unrhyw bod deallus a oedd wedi bodoli am filiynau o flynyddoedd wedi darganfod y ddaear a gadael tystiolaeth o’u bodolaeth erbyn hyn ? Bellach, mae Rasmus Bjork o Athrofa Niels Bohr yn Copenhagen wedi cyfrifo yn fanwl pa hyd y cymer gwareiddiad i ymchwilio’r bydysawd. Ei ganlyniad annisgwyl yw y byddai angen 10 biliwn o flynyddoedd – tri chwarter oed y bydysawd – i archwilio 0.4% ei sêr. Yr ateb i Fermi, felly, yw nad ydynt eto wedi cael amser i’n darganfod. Wrth gwrs mae’r un ddadl yn berthnasol i’n hymgais ni. Ond i orffen ar nodyn trist i bob un a diddordeb yn yr entrychion – mae’r llygad yna ar y Gofod – Telesgop Hubble – wedi methu o’r diwedd. Er waethaf sawl tro trwstan – ar un adeg bu rhaid defnyddio “sbectol” i gywiro camgymeriad cynllunio – hwn oedd “Waw Ffactor” astroffiseg y ddegawd ddiwethaf. Ond ar Ionawr 27 methodd system drydanol y prif gamera yn derfynol. Ni fydd byth eto yn gweithio’n llawn.
Pynciau: Sail atgofion, Mitocondria a chancr, Bywyd deallus y gofod