Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw: Rhan 1 (Y Sidydd).

Panel 1 (20190108_140800)

Cyflwyniad

Er nad aethant yn bendant yn angof i drigolion Dyffryn Ogwen, ychydig iawn o sylw a roddwyd i ffenomen hynod llechi cerfiedig y Dyffryn y tu hwnt i’w ffiniau. Yn ei llyfr nodedig Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen (1983), mae Gwenno Caffell (1916-2009) yn dweud nad oes yr un sylw ysgrifenedig na gwerthfawrogiad, ac ychydig iawn o sôn, amdanynt yn amser eu cerfio, nac wedi hynny. Fe’u hystyrid yn “ddim mwy na chwiw bersonol ar ran rhyw berchen tŷ anghofiedig”.

Ymchwil, a brwdfrydedd, Gwenno Caffell ac aelodau eraill Cymdeithas Archaeoleg Llandegai a Llanllechid a newidiodd yr agwedd hon ac achub nifer o drysorau a fyddai wedi’u colli am byth heb eu gwaith. O’r dyddiadau sydd wedi’u cynnwys ar nifer o’r cerrig, ymddengys mai rhwng rhyw 1823 a 1843 yr oedd y traddodiad yn ei anterth. Yn 1983 cyhoeddwyd y llyfryn a oedd i dynnu sylw ehangach atynt. Er, yn ôl y sôn yn y Dyffryn, bu angen cryn berswâd ar yr Amgueddfa Genedlaethol i ymgymryd â’r gwaith.

Yn yr erthygl hon manylir ar un enghraifft ohonynt ac arni’r dyddiad 1837.  Defnyddiwn yr enw “Pentan Bryn Twrw” i gyfeirio ati  er fe’i symudwyd o Fferm Bryn Twrw, Tregarth, ei safle gwreiddiol, rywbryd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd darllenwyr lleol yn sicr o wybod ei safle presennol (lle y bu ers dros gant ac ugain o flynyddoedd), ond i warchod preifatrwydd ei pherchnogion, glynir wrth yr arfer o beidio ag ymhelaethu yma.

Pentan Bryn Twrw

Saif y pentan o boptu lle tân cegin. Un llechfaen llorweddol (221 x 37 cm) goruwch, a dwy fertigol (126 x 35.5 cm) o boptu’r lle tân. Maent tua 2 cm o drwch. Mae ôl sawl bollten i gynnal y garreg lorweddol a rhyw ddau yr un i’r rhai fertigol. Mae pennau’r bolltau wedi’i gorchuddio a rhyw fath o resin, sydd wedi’i flac-ledio fel gweddill y pentan. Bu ymgais i adfer rhannau o fanylion y cerfluniau lle’r oedd y tyllau wedi ymyrryd â hwy.

Er mwyn ei disgrifio, gellir rhannu’r pentan yn 12 panel, wedi’u rhannu’n pum pâr cyffelyb i’w gilydd a dau banel unigol.

Pentan Bryn Twrw (DSC_0571) - rhifoY  Paneli

1 a 5. Cysawd yr haul
2 a 4. Diffyg (clip) yr haul a’r lleuad
3. Y Sidydd a nodiadau teulu Bryn Twrw
6. Esbonio talfyriadau.
7 a 8. Comed Halley a Chlip Haul 1836.
9 a 10. Yr Haul.
11 a 12. Y Planedau

Cychwynnwn ein taith yn y canol – gyda phanel 3

Panel 3 – Y Sidydd

Dyma ganolbwynt y pentan, a’r darn sydd wedi denu mwyaf o sylw dros y blynyddoedd. Mae iddo fanylion lu. Dyma dair delwedd o’r panel hon. Un ohonynt yn dangos lliw “naturiol” y Pentan. Llechen dywyll wedi’i blac-ledio am flynyddoedd lawer yw. Mae natur sgleiniog y wyneb yn ei gwneud yn anodd ei gweld yn ei chyfanrwydd, ac yn anoddach fyth tynnu ei llun. Defnyddiwyd meddalwedd camera (Nikon D40x) i dynnu’r ail ddelwedd (lliw gwinau). Y modd yma a ddefnyddiwyd yn y rhan fwyaf o ddelweddau’r disgrifiad hwn. Ar gyfer llyfr 1983, lluniodd yr artist Jeremy Yates gopi manwl a chywir o’r panel. Y mae copi o sawl darn o’r panel, ynghyd a braslun o ymylon y Pentan, hefyd i’w gweld mewn llyfr nodiadau o 1837. (Cyfeirir at hwn yn y lleoedd perthnasol.)

Panel 3 Cyfan (DSC_0483 (crop))Panel 3. Lliw naturiol. Llechen wedi’i flac-ledio.

Panel 3 Cyfan Lliw Artifisial (DSC_0479 (crop)) bachPanel 3. Lliw ffug sy’n caniatau gwell golwg ar y cynnwys.

Panel 3 Cyfan Yates (20190902_153901 (crop))Panel 3. Copi ffyddlon a wnethpwyd gan Jeremy Yates yn 1983.


Pennawd a Dyddiad

(Y SIDYDD – ZODIAC)
O.C.  1837

Manylion y Teulu

Yn gymharol ddinod, ynghanol y panel mae manylion teulu Bryn Twrw.

R.JONES A G.JONES
BRYN TWRW, LLANDEGAI

Richard a Grace Jones oedd y pâr newydd briodi. (Ymddengys bod y saer maen wedi gwneud camgymeriad, gan fod yr “ON” yn enw R. Jones wedi’i gerfio mewn pant anghelfydd.)

Panel 3 Par Priod (o DSC_0479)

Penblwyddi’r Teulu

OED R.J. 28.  |  HYDR. 29. 1837
O.G.J. 26.      |  TACH. 27. 1837
O.Y.F.E.J. 1.   | EBRILL 20. 1837
AIL. F. E.J.   |  TACH. 13. 1838

Mae’n debyg mai “Oed Grace Jones” yw O.G.J.  ac “Oed y Ferch” yw O.Y.F.  Mae angen mwy o ymchwil i gadarnhau ystyr yr E.J. a’r “AIL. F. E.J”. Ym mynwent Llandygai mae bedd y teulu (angen llun). Arno nodir claddu Eleanor Jones yn 2 oed ar Dachwedd 11 1838. Un dehongliad, felly, yw mai hon yw’r ddwy “E.J.”, ac mai cyfeiriad at ei marwolaeth yw “AIL. F” (ail fedyddio ?). Mae Eirwen Williams yn credu fod dwy ferch wahanol yma. Mae cynnwys dyddiad yn hwyr yn 1838 yn codi cwestiwn pryd, a thros ba gyfnod, y cerfiwyd y Pentan.

Panel 3 Dyddiadau'r Teulu (o DSC_0483)Yn sicr, nid yw’r cynllunydd wedi gadael llawer o le ar gyfer rhagor o blant i’r teulu, mewn cyfnod lle’r oedd teuluoedd mawr iawn yn arferol.


Panel 3 Cyfnodau'r Daear (o DSC_0483) bachSeryddiaeth y panel

Yn amgylchynu manylion y teulu mae hirgylch (braidd yn bigog) yn cynrychioli cylchdro’r ddaear o amgylch yr haul. Mae pedair delwedd o’r ddaear, pob un wedi’i nodi a “D”. Mae 7 neu 8 ysgythriad cynffurf (sef triongl hir) ar bob delwedd o’r ddaear yn nodi’r ochr sydd wedi’i goleuo gan yr Haul, sydd wedi’i arlunio’r gain â dau gylch o gŷnffurfiau gefn wrth gefn, yng nghanol yr hirgylch. Mae iddo ddau gylch o gŷnffurfiau a “H” fawr yn y canol. Mae marc cwmpawd yng nghanol yr Haul – fel ynghanol y pedair daear. Ledled y pentan gwelir mai diben rhain yw  hwyluso darlunio’r cylchoedd. Yma, llunio disgiau’r haul a’r ddaear oedd eu pwrpas. Nid oes ôl cylch o amgylch yr haul ac mae tyllau’r daearau yn fwy ac yn ddyfnach na’r angen, sy’n  awgrymu mai addurniadol yw’r diben.

Nid yw’r arysgrif na delwedd fawreddog yr Haul yng nghanol panel 3, ond mae hyn yn sicrhau eu bod, yn ôl y disgwyl, ynghanol cynllun cyfan y pentan. Mae presenoldeb panel 6 yn gwthio’r pum panel cymesur i’r chwith.

Panel 3 Dyddiadau'r Sidydd (o DSC_0476 a 0478) bachDyddiadau’r Sidydd

Yn rhan chwith ucha’r panel mae manylion am y Sidydd – gan gynnwys enwau’r cytser (tai) a’r dyddiadau traddodiadol a gysylltir â’r tai yma. Yn wreiddiol, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl,  dyma’r dyddiadau y byddai’r haul yn ymddangos yn y rhan hon o’r ffurfafen. (Wrth gwrs, does dim modd gweld y cytser a’r haul yr un pryd, ond fe fyddai sêr ddewiniaid cyn hanes (a oedd hefyd yn seryddwyr) wedi cyfrifo’r dyddiadau o’u gwybodaeth am leoliad y sêr.)

Sylwer bod camgymeriad (prin) yn y rhan hon o’r Pentan. Mae’r llythrennau “Y SAE” wedi’u gosod yn lle talfyriad ar gyfer Y Sgorpion (Tachwedd 22 – Rhagfyr 21)  (“Y SGO”, efallai).

Panel 3 Dyddiadau'r Sidydd (Tabl)Mae’r dyddiadau a nodir yn cyfateb i flynyddoedd lle bo Cyhydnos y Gwanwyn (Alban Eilir) yn syrthio ar Fawrth 20 (fel y nodir). ‘Roedd hyn yn wir 4 o’r 10 mlynedd rhwng 1830 a 1839 (gan gynnwys 1837 dyddiad tybiedig y Pentan a 1832 dyddiad y Guide to Knowledge (gw. isod)). Sylwer nad yw’r dyddiadau hyn yn “wyddonol gywir” oherwydd ymdaith y cyhydnosau (troelli araf echel y ddaear bob tua 25,700 o flynyddoedd) a’r ffaith mai trefn “drofannol” a ddefnyddid gan sêr ddewiniaeth y Gorllewin. (Mae sêr ddewiniaid Hindŵ yn defnyddio trefn “serol” sydd yn gyson â seryddiaeth.) Byddai John William Thomas (gweler isod), ffynhonnell cynnwys y pentan, yn gwybod hynny’n iawn.

Cylch (hirgrwn) y Sidydd

Panel 3 (1) Yr Hwrdd ArwyddUchafbwynt artistig y Pentan yw’r cylch o ddelweddau arwyddion y Sidydd sy’n troelli o amgylch cylchdro’r ddaear. Mae pob llun tua 6 cm o uchder a lled ac wedi’i gerfio’n llawrydd ac â chryn fanylder, gwreiddioldeb a chymeriad.

Panel 3 (1) Yr Hwrdd Llyfr CowntSaif Yr Hwrdd (Aries) ynghanol yr ochr chwith ac fe’i dilynir yn nhrefn yn erbyn yn groes i’r cloc gan weddill yr arwyddion. Nid oes amheuaeth am ei wroldeb – o’i geilliau pendant, cyhyrau ei lwynau i’w gyrn troellog. Mae’n syllu’n hyderus ar ei gynulleidfa yn y gegin. Cynulleidfa a fyddai wedi bod yn hen gyfarwydd â nodweddion hwrdd Cymreig. (Braslun a wnaethpwyd yn 1837 yw’r llun inc – gweler isod am ei darddiad).

Panel 3 (2) Y Tarw (du)Mae’r un manylder dychmygus yn nodweddu gweddill yr arwyddion. Y Tarw (Taurus) yw’r tŷ nesaf. Tarw Du tybed ? Mae ei gyrn a’i flew trwchus yn glir. Yma gwelwn y gyntaf o sawl enghraifft o gyd-chwarae rhwng y cymeriadau. Nid cylch o ddelweddau unigol sydd yma, ond dawns gylch fywiog a hyfryd.

Mae sylw’r tarw ar ei gymdogion, yr Efeilliaid. Mae ei goesau ar ystum rhuthr (un goes flaen yn rhwygo’r tir yn fygythiol), ei ben i lawr a’i lygaid aelog yn rhythu.

Panel 3 (3) Yr Efeilliaid (brown) contrastYmateb Pollux yw lapio ei freichiau’n amddiffynol o amgylch ei efaill Castor gan edrych yn ôl dros ei ysgwydd dde, tra bod Castor yn syllu’n bryderus ar y tarw – ei lygaid yn pefrio mewn ofn (Gemini). Mae manylion gwallt a phatrwm brethyn eu clos pen-glin i’w canfod drwy’r canrif a hanner o flac-led.

Unwaith eto, copi o 1837 yw’r llun pen ac inc (isod, yng nghwmni’r Llew).

Panel 3 (4) Y CrancGPanel 3 (5) Y Llew (o DSC_0483) goleuachwrthwyneb llwyr yw’r Cranc (Cancer) di-emosiwn. Mae’r cynllunydd wedi cynnwys llinell ganol ei gragen yn rhan o linell fertigol sy’n rhedeg (yn ddiangen?) drwy’r panel cyfan. Mae hyn yn ychwanegu at wedd fecanyddol yr arwydd. Mae’r ddwy grafanc gadarn ar i lawr, a’r coesau cymalog yn ymestyn yn gymesur o boptu’r gragen. Er, yn annisgwyl, mae’r pedair coes ar y dde wedi’u darlunio ychydig yn uwch na’r rhai ar y chwith. Heblaw am yr un nodwedd hon, mae penderfyniad yr artist i gadw cymesuredd geometrig yr anifail yn ymestyn i’w arwydd sêr-ddewiniol, sydd ar y llinell fertigol yn union uwchben y gragen.

Mae digon o emosiwn yn y ddwy ddelwedd nesaf. Mae’r Llew (Leo) yn bendant am waed Y Forwyn (Virgo) sy’n rhedeg am ei bywyd oddi wrtho – a’i golwg yn ôl dros ei hysgwydd dde, megis Pollux ei llygaid ofnus yn llenwi ei phen. Mae manylion y ddau yn llu (delwedd y Llew sydd wedi’i dywyllu fwyaf o’r holl luniau gan y blac-led). Mae blew, mwng  aruthrol a barf y llew yn llawn a’i lygad aelog yn edrych i fyw llygad y forwyn. Mae ei dalcen a blaen ei drwyn o fewn dim i gyrraedd cynffon ei gwisg.

Panel 3 (5 a 6) Gefeilliaid a Llew Llyfr Cownt

Mae ei goesau ôl yn gwthio a’i bawennau blaen o fewn dim i gydio yng nghoes chwith y forwyn. Mae ystum cynffon y Llew cynhyrfus yn hynod o realistig ond nid felly’r blew ar ei hyd. Cynffon llwynog sydd gan Panel 3 (5) Y Llew Jamiesonyr anifail ! (Sylwer, hefyd, bod pen Leo yn y ffurfafen yn edrych i ffwrdd o’r forwyn, i gyfeiriad y Cranc !) Heblaw am y gynffon, mae’r ddelwedd yn debyg iawn i un Alexander Jamieson (llun) (gw. Rhan 5). (Nid oes tebygrwydd o gwbl rhwng y rhan fwyaf o’r delweddau â rhai Jamieson.)

Panel 3 (6) Y Forwyn (o DSC_0472)Mae gwallt y Forwyn (Virgo) yn hynod o dwt (yn dynn â rhesen yn y canol yn ôl dull y 1830au) uwchben ei bochau llawn. Mae manylion i’w dillad ac mae’n cydio mewn rhywbeth (a all fod y swp o wenith sy’n ymddangos yn draddodiadol yn llaw dde’r forwyn) yn ei llaw dde estynedig. 

Panel 3 (7) Y FantolDelwedd gymesur, fanwl a chywir sydd i’r Fantol (Libra). Gellir gweld y Trawst, y Ffwlcrwm a’r Arwydd (a phâr o fachau cadarn i gynnal y padellau) a dolen i gydio ynddi. Fe fyddai wedi bod modd defnyddio’r peiriant hwn ym melin pont Coetmor gerllaw !

Panel 3 (8) Y Sgorpion

Yn wahanol i’r cranc, golwg “gnawdol” iawn sydd i’r Sgorpion (Scorpio). Edrych bron yn gyfeillgar, â phedwar blewyn annisgwyl yn ymestyn o’i ben tuag un o fachau’r fantol rhwng pâr o grafangau bychain. Mae ei goesau cymalog yn debyg i rai’r cranc, ond mae ei gorff dolennog yn gorffen yn ddwy bluen ysgafn sy’n bur wahanol i golyn marwol nodweddiadol yr anifail sŵolegol. (Cynffon traddodiadol dolffin, efallai ?)

Panel 3 (9) Y SaethyddNid oes gan y Saethydd (Sagittarius) lawer o ddiddordeb yn ei gymdogion. Mae ganddo ddigon i hunan ymfalchïo ynddo. Mae ei gorff yn llun cywir o ferlen o’i gynffon hir i’w goesau blaen. Mae ei draed ôl, un droed ag iddi egwyd, wedi’i arlunio’n ofalus. Mae’r rhawn yn fanwl. Gwrthgyferbyniad i hyn yw’r rhan ddynol. Tebycach i Picasso na Titian ! Golwg cernlun sydd i’r pen, trwyn mawr yn syth o’r talcen. Nid yw’r geg yn amlwg – ond o bosib bod mwstas. Gên wan. (Mae dwy stribed o flac-ledPanel 3 (9) Y Saethydd (Jamieson), neu raen y llechen, yn croesi’r rhan yma o’r llun. Efallai bod hyn yn gorchuddio manylion pwysig – megis penelin y saethydd.) Llygad ac ael syml a chlust enfawr. Yn codi o’r pen mae gwallt “Mohecan” manwl – tebycach i fwng ceffyl na gwallt dynol. Oddi tano mae ffurf siâp “D”. Mae’n debyg mai cyhyrau cryfion yr abdomen (six pack) a’r sternwm sydd yma. O bosib mai delwedd strap ei gawell saethau yw bol y “D” (gw. delwedd Jamieson). Aneglur yw bwriad y rhan oddi tan  hwn – y rhan sy’n cysylltu dyn a’r ceffyl. Mae, o bosib, fotwm bogel i’w weld ! Eto, efallai bod y gyfrinach i’w gweld yn llun Jamieson. O ystyried cryfder realistig y corff ceffyl, gwantan iawn yw’r fraich a’r llaw sy’n tynnu’r bwa bychan. Y saeth yn ymestyn o flaen y bwa atro ysgafn. (Mae’r bwa yn hynod o ddi-nod.) Gan fod pen y Saethydd yn ymestyn i ran gymharol wag o’r panel, mae’n mynnu sylw’r sylwedydd.

Panel 3 (10) Yr AfrYr Afr Ddŵr (Capricorn)Panel 3 (10) Yr Afr Llyfr Cownt sy’n hollti’r llinell fertigol ar ben cylchdro’r ddaear. Pen a chyrn cywir. Y cyrn â rhigolau pendant. Efallai bod clust. Llygad ac ael a barf nodweddiadol yn ymestyn at ei frest. Rhoddwyd sylw i fanylion y traed blaen. Y gynffon pysgodyn yn troi’n ddeheuig o amgylch y corff (bwlch lle bo’r croesi); ei blaen yn gymysgedd o bysgodyn a gafr. Dyma ystum nodweddiadol cynffon yr Afr Ddŵr – a adlewyrchir yn ei symbol (♑). Mae arlliw’r corff yn amrywio o’r gwddf (hir a chrwm) blewog, trwy gnu’r corff i’r gynffon gennog.  

Ceir undod hyfryd yn y ddwy ddelwedd olaf. Mae’r Dyfrwr (Aquarius) yn tywallt dŵr (Fluvius Aquari) o biser i’r Pysgod (Pisces). O bosib, dyma uchafbwynt artistig y panel.

Panel 3 (11 a 12) Dyfrwr a Physgol (o DSC_0487)Panel 3 (11) Y Dyfrwr (o DSC_0487) PenYm mhen gwych y Dyfrwr mae peth eglurhad am gynllun pen y Saethydd. Yr un pen cernlun. Yr un trwyn pendant, llygad ac ael. Mae cynllun y glust yn wahanol. Mae coiffeur hynod i’r Dyfrwr – Mohecan ag iddi res ! Mae absenoldeb ceg amlwg ynghyd a gên gref y Dyfrwr o bosib yn dangos mai dyma’r bwriad ar gyfer y Saethydd (yr ên wedi diflannu o dan drwch o flac-led). (Sylwch mai arteffact y ffotograff winau yw’r argraff bod y Dyfrwr yn edrych o’r tu ôl iddo.)

Panel 3 (9) Y Saethydd (o DSC_0499) PenMae ystum pob rhan o gorff y Dyfrwr yn arbennig. Ei gefn, ei freichiau a’i goesau yn mynegi teimlad. Mae ganddo fantell dros ei ysgwydd dde. Mae’r gostrel ddŵr enfawr yn gadarn yn ei arffed. Mae ei draed wedi’u gorchuddio gan “ddŵr” ei arwydd sêr-ddewiniol. Mae patrwm smotiog ar ei fantell. Mae profiad a dawn yr artist i’w gweld yn y bwlch gofalus lle mae ei goes dde yn diflannu y tu ôl i’w forddwyd chwith. Mae absenoldeb brest a bol amlwg – ac amlinell ystlys – yn adlais, efallai, i fwriad waelod llai llwyddiannus y Saethwr. Mae manylion helaeth i’r gostrel a’r dwylo sy’n ei chynnal. (Nid yw addurn ceg y gostrel wedi’u canoli ar ei gorff.)  O dan y gostrel, ac o flaen pen-glin y Dyfrwr, mae tair llinell gynffurf o dan linell grom. Mae’r rhain yn adlewyrchu gwaelod y gostrel. A oes ail gostrel ? Neu ai adlewyrchiad yw hwn yn y dŵr islaw ?

Dylinir ceg y gostrel gan gylch (hecsagon ?) ysgafn ychydig ar wahân iddi. Mae dŵr yn llifo dros ei hymyl isaf a phwll mawr o ddŵr yn ymestyn ohono. Mae llinellau cynhyrfus llif y dŵr yn amgylchynu dau bysgodyn (Pisces). (Maent yn debycach i Eogiaid nag i Frithyll.)  Mae iddynt nid yn unig llygaid, esgyll a chynffonnau, ond hefyd degyll a llinellau llinyn. Mae’r uchaf ohonynt yn syllu ar y Dyfrwr. Mae’r ffaith eu bod yn wynebu i gyfeiriadau gwahanol yn nodwedd glasurol i’r arwydd hon.

Ar ôl y Pysgod, mae’r cylch yn barod i ail gychwyn !

Copïau cyfamserol o ddarnau o’r Pentan.

Panel 3 (5 a 6) Gefeilliaid a Llew Llyfr CowntMae gan deulu presennol Richard a Grace Jones llyfr cyfrifon am adnewyddu Bryn Twrw yn 1837 (manylion yn Rhan 5). Yn y llyfr hwn mae brasluniau pen ac inc sy’n berthnasol i’r Pentan, gan gynnwys Panel 3 Llyfr Cownt Gafr-Hwrddambell arwydd o’r Sidydd (Yr Efeilliaid, Y Llew, Yr Afr-ddŵr a’r Hwrdd). Maent yn gopïau gofalus a chywir sy’n egluro manylion sydd wedi’u cymylu gan y blac-led. Ynddynt nodir yn glir y gwahaniaeth rhwng y sêr “mawr” a “bach”
(gw Darluniadau’r cytser isod). 

Llyfr Cownt 1837 4

Llyfr Cownt 1837 4 (Ymyl Ochr)Hefyd yn y llyfr cyfrifon, mae brasluniau o’r patrymau a welir ar hyd ymyl ambell banel.

Ochrau paneli 7-12 (chwith). Ymyl panel 2 (isod).

Llyfr Cownt 1837 4 (Ymyl Panel 2)


Arwyddion Sêr Ddewiniol

Wrth ymyl y delweddau mae eu harwyddion sêr-ddewiniol. Heddiw nid oes ôl arwydd y Llew – er ei fod wedi’i gynnwys ym mraslun y llyfr cyfrifon – ac nid oes ôl arwydd y Sgorpion i’w weld.

Paratowyd catalogau o’r arwyddion gan y Babiloniaid 3,000 o flynyddoedd yn ôl.  Mae ambell un (yr Efeilliaid a’r Cranc, er enghraifft) yn hŷn. Dros y canrifoedd esblygodd yr arwyddion.  Y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gliffiau sy’n ymdebygu i’r gwrthrychau. Gwelir pennau hwrdd (♈) a tharw (♉), parau’r Efeilliaid (♊) a’r Pysgod (♓) (sy’n draddodiadol ynghlwm ac yn wynebu ei gilydd – megis yn y Pentan). Dŵr y Dyfrwr (♒) a Saeth y Saethydd (♐) a’r Fantol (♎).  Mae’r Sgorpion a’r colyn (♏) ar ben ei gynffon a’r Afr-fôr (♑) yn weddol eglur (yr olaf yn debyg i’w lun yn y Pentan).  Pen y Llew a’i fwng  (♌) a chragen a chrafangau’r Cranc (♋). Mae’r arwydd olaf hwn, hefyd, yn awgrymu deuoliaeth y bydoedd ysbrydol a daearol. Un eithriad yw arwydd y Forwyn (♍)  – sef datblygiad o dair llythyren cyntaf y gair Groeg am Forwyn (parthenos), ΠΑΡ.


Darluniadau’r cytser

Almanack Woolhouse (1838) 3Gyda chryn ofal darluniwyd cytser pob aelod o’r Sidydd wrth ei ymyl. (Mae brasluniau’r llyfr cownt lawn mor ofalus.) Ym mron pob un mae sêr o ddau faint. Un neu ddwy yn fwy (6 mm) â’r gweddill yn llai (4.2 mm). Mae’n amlwg bod pwrpas i hyn. Mwy na thebyg i nodi prif seren neu sêr y cytser. Pa mor gywir yw dyluniad y sêr ? Mae modd eu cymharu â chynlluniau modern (yma mewn glas) a hefyd gyda dogfen a oedd ar gael i’r cynllunydd. (Mae copi o Almanack Wesley Woolhouse ar gyfer y flwyddyn 1838 o hyd ym meddiant disgynyddion Richard a Grace Jones.) Atgynhyrchir y lluniau priodol yma (du a gwyn). Rhaid dod i’r casgliad nad ydy delweddau sêr y cyser ddim yn gywir o gwbl. Mae un neu ddau o’r patrymau yn dangos digon o debygrwydd i ddangos nad ar hap y lluniwyd hwynt (Y Cranc, Y Pysgod). Ond am y rhan fwyaf anodd, os nad amhosibl, gweld y cyfatebiad.

Y Cranc

Y mwyaf tebyg i natur yw’r Cranc. Ar y Pentan mae wyth seren yn fras ar ffurf triongl. O ddychmygu ychydig, gellir uniaethu hyn â’r cytser. Ond mae tri maint gwahanol o dyllau – dau yn unig sy’n cyfateb i’r sêr mwyaf – a’r seren fwyaf un (Acubens, α) yn dwll bychan. 

Y Pysgod

Mae modd dehongli patrwm tyllau’r Pysgod fel dau bysgodyn ynghlwm yn ei gilydd. Gellir uniaethu’r seren fwyaf ag Al Risha (α) (y cwlwm). Ond nid oes llawer o debygrwydd rhwng gweddill y patrwm â sêr y ffurfafen.

 

Y Sgorpion

Unwaith eto, y mae modd ystumio’r patrwm. Y tro hwn byddai Antares (α) yn gywir ynghanol y patrwm.

Y Fantol

Gellir dychmygu rhyw arlliw o’r patrwm hwn, hefyd.

Yr Hwrdd

Mae hwn yn llawer llai amlwg.

Y Tarw

Yma nid oes yr un seren fawr wedi’i nodi – er mai Aldebaran yw un o sêr mwyaf llachar y ffurfafen. Y darn canol, yn unig, o’r ddelwedd sydd yn yr Almanack. Mae’n amlwg nad hwn yw ffynhonnell patrwm y Pentan.

 

Yr Efeilliaid

Un o brif nodweddion y cytser hwn yw’r efailliaid o sêr, Castor a Pollux. Dim ond un ohonynt sydd yn y llun.

Y Llew

Y ddwy brif seren yn eu lle, o bosib, a ffurf cyffredinol y creadur cyhyrog.

 

Yr Afr Fôr

Mae’r siâp triongl cyffredinol yn debyg i natur.  Wrth edrych ar ddelwedd drych o hwn, mae Dabih (β) yn cymryd lle Nashira. Ond nid oes rhagor o dystiolaeth bod cymharu delweddau drych yn gwella cyfatebiaeth y lluniau i’r sêr naturiol.

 

Y Forwyn

Gellir creu sawl cyferbyniad, yn ôl eich mympwy, yma. (Galaeth anweledig yw cylch graddliw y llun glas.)

Am y gweddill, bydd rhaid aros am ragor o dystiolaeth i ganfod beth oedd bwriad y cynllunydd.

Y Saethydd

Y Dyfrwr

Gellir gwneud dim ond dyfalu mai rhan o’r cytser yn unig sydd i Aquarius sydd yma, ond pa ran ?

 

Ar y cyfan, ymddengys mai diben y patrymau hyn yw creu argraff, yn hytrach na chyfleu gwybodaeth seryddol. Mae hyn yn annisgwyl wrth ystyried manylder cywir cymaint o weddill y Pentan.


Delweddau eraill.

Dwy ddelwedd debyg o gloc. Y bysedd yn nodi 12:32.

Dwy ddelwedd debyg o flodau a dail (y blodyn megis haul, gwythiennau’r dail yn amlwg).


Llofnodion yr Artistiaid.

Yn fwy, ac yn llawer mwy addurnedig nag enwau Richard a Grace Jones yw enwau a swyddogaethau’r arlunwyr. Maent ar waelod y panel ac mae iddynt briflythrennau addurnedig iawn.

A’m Cerfiodd
Thomas Jones
A’m Helpodd
W. Jones

Yn Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen mae Gwenno Caffell yn dweud mai brodyr Grace Jones (gwrthrych y garreg) oedd y ddau yma gan roi dyddiadau iddynt (T.J. 1808-1840 a W.J. 1815-1855). Mae Eirwen Williams, ei disgynnydd, yn anghytuno.


< Yn ôl i dudalen Hanes Dyffryn Ogwen
at Rhan 2:  Cysawd yr Haul >


Am gopiau mwy o’r lluniau cysylltwch â Deri Tomos (a.d.tomos@bangor.ac.uk)