Arolwg Gwyddoniaeth a Thechnoleg 2017

Hanesion y Gofod a chipiodd gwobrau 2018 i mi. Rainer Weiss, Kip Thorne and Barry Barish yn rhanni’r Wobr Nobel am Ffiseg am eu darganfyddiad o donnau disgyrchiant – 112 o flynyddoedd ar ôl eu crybwyll gan Henri Poincaré yn 1905  (a’u darogan yn 1916 gan Albert Einstein). Fe’u canfuwyd am y tro cyntaf ym Medi 2015 (a’i gyhoeddi Chwefror 2016). Tyllau duon yn ymrafael oedd  tarddiad a bu tri digwyddiad tebyg arall ers hynny. Yna yn Hydref 2017 cyhoeddwyd canfod trawiad ddwy seren niwtron.  Y bydysawd o’n cwmpas yn canu fel cloch.

Ar Fedi 15, a’r byd yn dyst, fe blymiodd y llong ofod Cassini i’w thranc yng nghymylau’r blaned Sadwrn, ar ôl taith 20 mlynedd ryfeddol. Yn ein tro daeth ymwelydd atom ni o du hwnt i gyfundrefn yr haul,  ‘Oumuamua (y Rhagchwilotwr, yn iaith Hawaii).  Dyma’r tro cyntaf inni fod yn ymwybodol o rywbeth o’r fath. I goroni’r achlysur, cyhoeddwyd llun-argraff ohoni gan yr artist Martin Kornmesser o dîm ESA/NASA – a oedd yn rhyfeddol o atgofus o lun llong ofod o glawr nofel wyddonias y 60au.

Ac ar y ddaear siom – nid annisgwyl – o weld Trump yn tynnu’r UD o Gytundeb Newid Hinsawdd Paris ar Fehefin 1. Ond gobaith i’w canfod yn ymateb nifer o wleidyddion eraill ei wlad yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bonn ym Mis Tachwedd o dan arweinyddiaeth Jerry Brown, Llywodraethwr Califfornia, a Michael Bloomberg cyn Maer Efrog Newydd.  Ond erys pob nôd ac arwydd ein bod yn bell o ddatrys y broblem. Mae lefel CO2 yr awyrgylch (403.3 ppm) yn uwch nag y bu ers dros dair miliwn o flynyddoedd, ac yn cynyddu’n gyflymach nag erioed o’r blaen. A digwyddiadau megis tarddiad un o’r mynyddoedd rhew fwyaf a welwyd wrth i drwyn rhewlif  Larsen C torri’n rhydd ym mis Gorffennaf, yn adlewyrchu’r effaith.

Tair miliwn o flynyddoedd yn ôl, nid oedd golwg o Homo sapiens ar wyneb y ddaear a Homo habilis ar fin ein cynrychioli ymysg y ffosiliau. Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai dadlennol iawn am hanes y ddynoliaeth, ac ni fu 2017 yn siom.  Ym mis Mai cafwyd oedran pendant i esgyrn Homo naledi – y bu gryn sôn am ei arferion claddu ers eu darganfod yn gyntaf yn 2013. Y dyfarniad yw rhwng 236,000 a 335,000 o flynyddoedd gyda’r oblygiad nad ydynt yn gyndadau i ni – ond eto yn rhanni nodweddion “dynol” pendant, megis, o bosib, gofal am y meirw. Fe’m hatgoffwyd o’r hanes a adroddwyd ym mis Mawrth am tsimpansî yn ymarweddi hiraeth ac yn twtio ychydig ar gorff marw hen gyfaill. Ac am oedran Homo sapiens ? Dau ddarganfyddiad o bwys eleni. Olion ohono ym Moroco wedi’u dyddio i rhwng 250,000 a 350,000 – tua chan mil o flynyddoedd yn hŷn na’r dyddiad safonol hyd yma, ac yn bendant yn cydoesi gyda Naledi. Ac ym mis Gorffennaf, dod o hyn i olion cudd o’n DNA mewn asgwrn Neanderthal o Ewrop 124,000 o flynyddoedd yn ôl. Llawer cynt na’r dyddiad presennol o fudo Homo sapiens o’r Affrig i Ewrop (ryw 60,000 o flynyddoedd yn ôl), ac yn enghraifft arall o’r dystiolaeth y bu “hianci panci” rhwng y ddwy rywogaeth yng nghoedwigoedd ein cyfandir.

Ar hyd y cyfnod bu gwyddoniaeth a thechnoleg Homo sapiens yn dylanwadi ar ei ddyfodol. Bu 2017 ddim yn eithriad. Bu darganfyddiadau hynod am yr ymennydd – gan gynnwys, yng Ngorffennaf,  canfod lle’r a atgofion anghofiedig clefyd Alzheimer,  a sut mae gweld y byd trwy lygad mwnci. Y ddau yn cynnig gwellhad i gystuddiau ein tras. Ym mis Gorffennaf, hefyd, bu adroddiad a’m hatgoffodd am un o hanesion y Brodyr Grimm. Chwistrelli bôn gelloedd llygod newydd anedig i ymenyddiau llygod hyn a thrwy hynny ymestyn eu bywydau.

Yn fy maes fy hun, technoleg Golygu Genynnau (techneg CRISPR a’i debyg) sydd wedi hawlio pennawd ar ôl pennawd eleni. Yn Tsieina, mae’n ymddangos fod sawl defnydd clinigol ohono yn yr arfaeth, tra yng ngwledydd Prydain, ym mis Medi  fe’i defnyddiwyd yn arbrofol am y tro cyntaf i newid datblygiad embryonau dynol. Ym mis Tachwedd gwelwyd hanes achub bywyd bachgen o Syria a gafodd croen cyfan newydd ar ôl cywiro genyn diffygiol yn ei un ei hun.  Ym mis Hydref bedyddiwyd egin-ffasiwn newydd – Bio-hacio – wrth i Josiah Zayner fod y person gyntaf i ddefnyddio CRISPR yn gyhoeddus i geisio newid ei gorff  ei hunain (gartref). Bu’r cynnwrf yn ddigon i Asiantaeth Gwrth-Dôpio’r Byd ar gyfer chwaraeon cystadleuol – megis y Gemau Olympaidd –  cyhoeddi gwaharddiad ar y dechneg o 2018 ymlaen yn yr un mis. Cydnabyddiaeth fod y dechnoleg wedi Cyrraedd !

Beth a ddaw yn dau ddeg a deunaw ?


Cyfeiriadau

Gwobrau Nobel Ffiseg: https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/2017/
Tonnau disgyrchiant sêr niwtron: https://www.space.com/38471-gravitational-waves-neutron-star-crashes-discovery-explained.html
Cassini: https://www.nasa.gov/mission_pages/cassini/main/index.html
‘Oumuamua: https://www.eso.org/public/news/eso1737/
Trump a chytundeb Paris: : https://www.reuters.com/article/us-un-climate-usa-paris/u-s-submits-formal-notice-of-withdrawal-from-paris-climate-pact-idUSKBN1AK2FM
Cynhadledd Bonn: https://www.theguardian.com/environment/2017/nov/09/bonn-climate-change-talks-us-two-tribes
CO2 uchaf: https://public.wmo.int/en/media/press-release/greenhouse-gas-concentrations-surge-new-record
Larsen C: http://www.independent.co.uk/news/science/antarctic-iceberg-a68-larsen-c-ice-shelf-quarter-size-wales-drifting-out-sea-a7950746.html
Homo naledi: https://www.newscientist.com/article/2128834-homo-naledi-is-only-250000-years-old-heres-why-that-matters/
Homo sapiens cynharaf: https://www.nature.com/news/oldest-homo-sapiens-fossil-claim-rewrites-our-species-history-1.22114
sapiens x neanderthalis cynnar: https://www.mpg.de/11380725/ancient-dna-sheds-new-light-on-neanderthal-evolution
Atgofion Alzheimer: http://newsroom.cumc.columbia.edu/blog/2017/08/21/memories-lost-to-alzheimers-may-be-retrievable/
Gweld trwy llygad mwnci: http://www.caltech.edu/news/cracking-code-facial-recognition-78508
Elicsir bywyd: https://www.nature.com/news/brain-s-stem-cells-slow-ageing-in-mice-1.22367
Golygu Genynau: https://www.newscientist.com/article/2133095-boom-in-human-gene-editing-as-20-crispr-trials-gear-up/
Croen newydd: https://www.theguardian.com/science/2017/nov/08/scientists-grow-replacement-skin-for-boy-suffering-devastating-genetic-disorder
Biohacio: https://www.newscientist.com/article/mg23631520-100-biohackers-are-using-crispr-on-their-dna-and-we-cant-stop-it/
CRISPR a chwaraeon: https://www.newscientist.com/article/2149768-anti-doping-agency-to-ban-all-gene-editing-in-sport-from-2018/

2 Comments

Gadael sylw