Barn 152 (Nadolig 2021): Dinosoriaid Cymreig, Tȟatȟáŋka Íyotake, COP26


Hei ho, Hei di ho – newid aelwyd pob yn eilddydd oedd disgrifiad Crwys o’r sipsi. Arhosiad ychydig yn hwy oedd hanes creadur a disgrifwyd yn y cylchgrawn ar-lein Royal Society Open Science ar ddechrau Hydref. 200 miliwn o flynyddoedd mewn bedd ar ynys cynnes goediog o galchfaen, ac yna’n gorwedd yn ddisylw mewn drôr yn Amgueddfa Hanes Naturiol South Kensington am dros hanner canrif. Ei enw a daliodd fy sylw – Pendraig milnerae. Ac yn addas ar gyfer ei gartref yn Llundain, mi roedd yn ddeinosôr. I’r paleontolegydd ei pwysigrwydd yw mai dyma’r therapod hynaf i’w darganfod yng ngwledydd Pridain. Mae’n dyddio o cyfnod y Triasig Hwyr, a ddisodlwyd yn ei dro gan y Jurassic o barchus goffadwraeth dinosoraidd. Engreifftiau mwy diweddar o theropod oedd y Tyranosaurus rex, y Velociraptor – a holl adar ein byd heddiw.

Mae ei enw Cymraeg yn dadlenni ychydig am ei gynefin.  Yn 1951-2 bu ddau paleontolegydd o Brifysgol Llundain, Kenneth Kermack a Pamela Robinson yn cloddio yn chwarel Pant y Ffynon wrth ochr yr A48 wrth gadael Tresimwn i gyfeiriad y Bontfaen. Yn dilyn symudiadau tectonig Cymru ar draws y blaned, dyma lle gorwedd olion yr ynys trofannol goediog. Dadorchyddiwyd trysor o sgerbydau ganddynt a’u disgrifiwyd yn arwynebol ar y pryd. Roedd nifer ohonynt yn ymlisgiaid hyblig wedi’u haddasu i fyw yn holltau ac ogofau y garreg calch – sydd hyd heddiw yn atyniad i’r mentrus i’r rhan honno o Gymru. Wedi newid aelwyd i Dde Kensington, bu rhaid i’r esgyrn aros cyn cael eu harchwilio a cychwyn ar gyfres o enwau hyfryd. Y gyntaf oedd Pantydraco caducus, dinosôr sylweddol, tair metr o hyd a ddisgrifiwyd ac enwyd yn 2007.  Yn 2019 enwyd swp o esgyrn wedi’i llysenwi’n gynt yn “Edgar” yn Aenigmaspina pantyffynnonensis. Mae hefyd yr Clevosaurus cambrica o 2018. Yn awr mae Stephan Spiekman a’i gydweithwyr wedi dewis Pendraig ar gyfer enw genws un arall o’r olion (a camgymerwyd yn wreiddiol o fod yn fath o grocodeil). Daw’r enw rhywogaeth o’r Dr Angela Milner, un o arbenigwyr y theropodiaid. Bu hi farw yn 2021.

Enw ffurfiol anifail neu phlanhigyn yw anfarwoldeb nifer o naturieithwyr.  Mewn hanes arall a gyhoeddwyd yn Science Advances ar ddiwedd mis Hydref defnyddiwyd natur i gadarnhau anfarwoldeb hanes unigolyn. Lladwyd Tȟatȟáŋka Íyotake (Sitting Bull yn iaith y dyn gwyn) yn 1890 wrth “geisio osgoi arest”. Claddwyd pennaeth y Sioux Hunkpapa Lakota, a gorchfygwr y cadfridog George Armstrong Custer a’i wŷr, ger Fort Yates yng Ngogledd Dakota. Mae’r hyn a ddigwyddodd i’w gweddillion wedyn yn destyn anghydfod. Yn ol un hanes, symudwyd ei gorff gan ei gefnogwyr i le anhysbys yng Nghanada yn fuan wedi’r claddu. Ond yn 1953 cyflogodd teulu Tȟatȟáŋka ymgymerwr i agor y bedd ger Fort Yates (Íŋyaŋ Woslál Háŋ; Rhandir Frodorol Standing Rock😉 a credir iddynt symyd y gweddillion i Mobridge, De Dakota. Heddiw daw pererinion at y ddwy beddfan i fynegi parch.

Dengys cart achau’r teulu mai gwr o’r enw Ernie LaPointe, a anwyd yn Wazí Aháŋhaŋ Oyáŋke (Rhandir Frodorol Pine Ridge) yn Ne Dakota yw or-ŵyr Tȟatȟáŋka. Lladmerydd brwd i Genhedloedd Cyntaf yr Unol Dalaethiau. Cred Ernie mai yn Mobridge y mae ei hen daid ac y mae’n cymryd camau cyfreithiol i gael yr hawl nid yn unig i datgan hynny’n ffurfiol – ond i symyd yr olion, unwaith eto. Y tro hwn i safle uchafbwynt bywyd Tȟatȟáŋka ar faes Y Little Big Horn (Brwydr y Llain Gwerog i’r Lakota).

I gryfhau ei safle a hawl, mae LaPointe wedi troi at bioleg moleciwlar i brofi ei dras. Yn 1890 torrodd llawfeddyg Fort Yates cudyn o wallt Tȟatȟáŋka yn swfenîr. Ac yn 1896 fe’i benthycwyd yn hir dymor i Amgueddfa’r Smithsonian yn Washington. Yn 2007, a’r hisawdd yn dechrau newid, fe’i adferwyd i LaPoite a’i tair chwaer. Diddymwyd y gwallt mewn seremoni, ond nid cyn i LaPointe cytuno i drosgwlyddo ychydig bach ohono i Labordy Eske Willerslev yn Copenhagen, Denmarc.

Mae’r genetegydd byd enwog hwn wedi ymgymryd a materion brodorion sathredig ledled y byd. Yn 2014 bu’n allweddol i orfodi’r Smithsonian i ddychwelyd olion Crwtyn Anzick (12,600 o flynyddoedd oed) i diroedd ei gyndadau. Am dros ganrif roedd awdurdodai’r Unol Dalaethiau wedi gwrthod derbyn bod indiaid cochion heddiw ag unryw hawl ar yr olion archaeolegol ac mae hanes cyfreithiol Crwtyn Anzick yn ddameg o’n hoes. O ganlyniad i’w gyfraniad, mabwysiadwyd Willerslev gan tylwyth y Crow yn 2014. Cam bychan, ond pwysig, i bontio’r gadendor byd eang sy’n bodoli rhwng pobloedd “cyffredin” a gwyddoniaeth y goresgynwyr. (Hyfryd gweld bod Ernie LaPointe ar restr awduron y papur diweddaraf.)   

Yn ogystal, mae camp technegol Willerslev a’i dîm yn aruthrol. Trwy ei fam y perthyn LaPointe i Tȟatȟáŋka. Felly nid oedd modd defnyddio’r dulliau DNA cyffredin (mitocondria neu cromosom Y). Hefyd, nid yn unig oedd y sample yn fach iawn, ond nid oedd ei DNA wedi goroesi’n dda (tua 2%). Bu rhaid casglu dilyniannau byr o garpiau’r molecylau. Ond arwydd o’r cynnydd aruthrol ym maes y Genom Ddynol (gryn dipyn trwy ymdrechion labordy Willerslev) oedd bod modd profi’r cyswllt. Dyma’r tro cyntaf i berthynas mor bell a sampl mor anodd cael ei brofi trwy DNA. Cred Willerslev y bydd modd dilyn yr un trywydd i ateb cwestiynnau cyffelyb ledled y byd. Amser a ddengys os y bydd Ernie LaPointe yn llwyddiannus yn ei ymgyrch.

Fel gwyddonydd roedd dilyn adroddiadau beunyddiol COP26 unwaith eto yn brofiad boenus iawn i mi. Er yn gymleth, nid yw’r gwyddoniaeth yn ddim o’i gymharu a chymlethdodau’r natur ddynol (os dymunwch, er hwylustod, i osod y ddau ar wahan, hynny yw). Fy ngobaith yw bod y cyfryngau yn dueddol o adlewyrchu’r ail ar draul llwyddiannau’r llall. (Nid rhywbeth newydd byddai hynny.)

Un agwedd o hyn oedd fy argraff o neilltuolaeth (exclusivism) pwerau’r Gorllewin. Un engraifft amlwg oedd eu hagwedd at Tsieina.  Nid wyf am amddiffyn record llywodraethau Tsieina sydd yn bencampwyr ar neilltuoliaeth ers dros dwy fil o flynyddoedd – ond fe’m atgoffwyd gan y sôn am eu ymddygiad tuag at y Islamiaid Uyghur o agwedd Llywodraeth yr Unol Daleithiau at ei Cenhedloedd Gyntaf dros y ganrif diwethaf. Dim ond yn 1991 rhoddwyd cyniatad i’r Lakota goisod cofeb i’w meirwon ger y Llain Gwerog.  Hefyd, yn y golofn hon ym mis Mai mi soniais am ôl-troed carbon arian rhithiol, megys Bitcoin. Dros yr haf mewn adroddiadau yn yr Economist a thu hwnt mi synhwyraf nad oes pall ar dyfiant y ffynhonell hon o CO2. Ond nid yn Tsienia. Yn dilyn gwaharddiadau arno yno, mae fantell mwynglodio Bitcoin wedi’i trosglwyddo i’r Unol Dalaethiau, lle yn ôl adroddiad o Brifysgol Caergrawnt mae ei cyfraniad wedi cynyddu o 16.8% ym mis Ebrill i 35.4% erbyn diwedd Awst. Brychieiyn o’i gymharu a pwerdai glo Tsieina wrth gwrs. Yn y cyd-destun honno, diddorol oedd darllen adroddiad Smriti Mallapaty yn Nature ym mis Medi am ymgais y wlad honno i masnachu adweithydd niwclear wedi’i fwydo gan yr elfen Thoriwm trwy adeiladu un bach 2MW yn Wuwei yn nhalaith Gansu.  Eich gwaith cartref dros y Nadolig bydd adolygu manteision amgylcheddol y dechnoleg hwnnw. Atebion yn y flwyddyn newydd !

Tua maint ei disgynydd, y twrci, oedd Pendraig. Tybed sut y buasai wedi blasu dros ginio Nadolig ? 


Pynciau: Dinosoriaid Cymreig, Tȟatȟáŋka Íyotake, COP26


Cyfeiriadau

Dinosoriaid Cymreig: Stephan N. F. Spiekman, Martín D. Ezcurra, Richard J. Butler, Nicholas C. Fraser a Susannah C. R. Maidment (2021) Pendraig milnerae, a new small-sized coelophysoid theropod from the Late Triassic of Wales. Royal Society Open Science 8, (10)

Tȟatȟáŋka Íyotake: Ida Moltke, Thorfinn Sand Korneliussen, Andaine Seguin-Orlando, J. Víctor Moreno-Mayar, Ernie Lapointe, William Billeck a Eske Willerslev (2021) Identifying a living great-grandson of the Lakota Sioux leader Tatanka Iyotake (Sitting Bull). Science Advances 7, (44)

COP26: Smriti Mallapaty (2021) China prepares to test thorium-fuelled nuclear reactor. Nature Medi 9


<olaf nesaf>