Barn 149 (Medi 2021): Arlwy Gwyddonol Eisteddfod AmGen 2021


(Wrthi’n gosod cysylltiadau a lluniau.)

Brawd a chwaer fach o’r enw Saeth ac Erin – a’u mam, y biocemegydd Alwena Morgan – oedd ymhlith prif sêr fy nghytser Eisteddfodol eleni.  Y nhw, ynghyd ag aelod arall o’r teulu – sgerbwd dynol. Bu rhaid imi wylio’r cwta pedwar munud You Tube nifer o weithiau cyn symud ymlaen. Y syniad yn un syml. Gofyn i’r plant bob yn ail ddangos esgyrn rhannau o’r corff – tic mawr gwyrdd o gael yr ateb cywir. Ond, wrth gwrs, dechreuodd Saeth adael y sgript ac Erin hithau flino. Yn niniweidrwydd anghyfarwyddiadwy’r plant cafwyd dameg ac enghraifft hyfryd o gyflwyno rhyfeddod y cread i’r genhedlaeth nesaf. 

Rhyfeddodau’r sêr (ac ambell blaned) oedd testunau wyneb ffres arall Eisteddfod Amgen. Cyfres feunyddiol wych Gwenllian Williams (Maggie Aderin-Pockock – cyd-gyflwynydd The Sky at Night ar ôl Patrick Moore –  Cymru).  O ardd gefn y teulu “yng ngorllewin Cymru” fe’n cyfarwyddwyd yn gyntaf am Gysawd yr Haul, yna’n cyflwyno i’r planedau Mawrth ac Iau cyn ein hebrwng i bellafoedd y Bydysawd i brofi geni sêr.  (Geni Sêr Anferth yw arbenigedd ymchwil Gwenllian.) Manteisiodd y gyflwynwraig a’i thîm cynhyrchu yn helaeth ar y delweddau diweddaraf o gasgliad Arsyllfa’r Brenin yn Greenwich. Cyflwyniad gwych i’r hyn y gallwn ddisgwyl ei weld o haig o robotiaid arallfydol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Eitemau mor naturiol â’r dydd (neu’r nos, efallai) yn y Gymraeg. Ond yn sesiwn agoriadol arlwy’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg fe’n hatgoffwyd o fywyd y gŵr a ystyriwyd yn Seren Fore’r ymdriniaeth fodern o wyddoniaeth trwy’n hiaith. Bu’r Athro Glyn O. Phillips farw yng Ngorffennaf 2020 yn 92 oed. Mae gan bob un ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol a thechnolegol ddyled i’r cemegydd amlddawn hwn.  Trwy rym ei bersonoliaeth (a chymorth ei wraig Rhiain – sy’n serennu yn y deyrnged fideo) llwyddodd i ysbrydoli ac uno cwmwl o wyddonwyr ac addysgwyr gwyddonol proffesiynol Cymraeg yn ystod blynyddoedd tyngedfennol darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis. Ymddangosodd rhifyn cyntaf Y Gwyddonydd, o dan olygyddiaeth Glyn O. fis Mawrth 1963, flwyddyn yn union wedi’r Ddarlith.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gwelwyd enghraifft o waddol ei waith pan sefydlwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn un o fedalau sefydlog yr Ŵyl. Yn hollol briodol, Glyn oedd y cyntaf i’w dderbyn.  Fel rhan o arlwy AmGen eleni cafwyd ffilmiau am rai o ddeiliaid eraill y Fedal ynghyd â hanes presenoldeb Gwyddoniaeth ar faes y brifwyl.  Hyfryd gweld Iolo ap Gwyn a Guto Roberts yn ein tywys o’r dyddiau cynnar yn y 1970au i grèche addysgiadol fwya’r genedl.

Hefyd yn 2020, yn 87 mlwydd oed,  bu farw cemegydd mawr arall o Gymru. A phriodol iawn oedd cael hanes bywyd o’r Athro Syr John Meurig Thomas yn rhan o arlwy AmGen.  Yn Athro a Phennaeth Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt (1978-1986) cyn dod yn Gyfarwyddwr Athrofa’r Brenin yn Llundain (1986-1991) a Phennaeth Coleg Peterhouse (1994-2002), Syr John oedd un o gemegwyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Yn wahanol i ffawd nifer o feysydd ymchwil, mae ei gyfraniadau ym myd catalyddion gwyrdd yn tyfu mewn arwyddocâd wrth inni wynebu sialensiau’r amgylchedd.  Ar lefel bersonol i mi, hyfryd oedd gweld teyrnged y biocemegydd y Fonesig Athro Jean Thomas i Syr John. Jean, o Dreboeth, Abertawe, oedd y llais Cymraeg yn y tîm darlithio a’m hysbrydolodd i yn fy maes hanner can mlynedd yn ôl. Mae amser yn hedfan pan ‘da chi’n mwynhau !

Trwy gyd-ddigwyddiad defnyddiwyd yr union yr un ymadrodd i ddisgrifio bywydau’r ddau Athro – Glyn a John. Pedwar “C”, sef Cemegwyr, Cymry, Cantorion a Christionogion.

Bu cemeg (ynghyd â sêr) yn thema barhaus trwy’r wythnos. Yng nghyfres “Sêr Cemeg” fe’n cyflwynwyd i nifer o gemegwyr ifainc a’u meysydd arbennig ym myd cemeg a meddygaeth. Aed ati i ail-greu peth o gyffro’r maes trwy iddynt “berfformio” arbrawf labordy yn fyw o’n blaenau – ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan nifer o ddisgyblion ysgol brwd. Cyfle anghyffredin i weld yn union beth a wna cemegwyr wrth arbrofi. Yn anfwriadol bu cyfuniad o Sêr a Chemeg hefyd wrth i Simon Ward, Athro “Sêr Cymru” Darganfod Cyffuriau Trosiadol a Phennaeth Athrofa Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, gyflwyno darlith optimistaidd i Babell y Cymdeithasau ar hanes a dyfodol triniaethau Iechyd Meddwl.

Os bu “Sêr Cemeg” yn gyfrwng dod â’r gynulleidfa i’r labordy, yn ystod yr wythnos, arweiniodd y Prifardd Hywel Griffiths ei gynulleidfa ar daith rithiol i brofi geomorffoleg Cwm Ystwyth. Rhaid cyfaddef, na fûm erioed yno – ond mae Hywel wedi codi blys go iawn arnaf wneud hynny. Ond bydd yn wythnosau cyn y byddaf wedi darllen yr holl wybodaeth sydd ar gael ar y wefan ! Ar ben hynny, mae’n bygwth creu rhagor o deithiau tebyg !!

Tameidiau amheuthun oedd y rhan fwyaf o arlwy wyddonol Amgen – ond ar ddiwedd pob dydd bu cyrsiau llawn mewn trafodaethau ar dri o bynciau mawr ein hamseroedd. Byddai Glyn O. Phillips wedi bod wrth ei fodd gweld paneli o arbenigwyr proffesiynol yn trafod Covid-19, Newid Hinsawdd a Ffynonellau Ynni Cynaliadwy. Pob un o dan arweiniad Elin Rhys, Telesgop. 

Elin Rhys, hefyd fu’n cyfweld Neville Evans wrth gau pen y mwdwl i’r gweithgareddau. Bu’r diymhongar Neville Evans, Fforest-fach a Radyr, yn Arolygwr ei Mawrhydi Gwyddoniaeth am ddeng mlynedd ar hugain ac yn dyst i’r datblygiadau yng ngwyddoniaeth trwy’r Gymraeg dros y trigain mlynedd diwethaf.  Ei brif falchder oedd pwysleisio bod bellach fodd i holl blant Cymru, pe dymunent, astudio gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg o’r dosbarth derbyn hyd ddeunaw oed  yn Gymraeg. Rhywbeth anodd ei rhagweld yn nyddiau’r “lessons geography”, chwedl Dafydd Iwan.

Bu gwaith Neville a’i gyd-addysgwyr yn allweddol.  Braf yw gwybod bod cymaint o ddisgyblion ein gwlad bellach yn cymryd yn ganiataol bod cemeg, ffiseg, bywydeg ac ati ar gael yn Gymraeg.  Dangosodd cymaint o weithgaredd wythnos AmGen bod hyn wedi torri trwodd i’n prifysgolion ac ambell fusnes technolegol.

Yn wahanol, efallai, i Nevill, teimlaf fod yr Eisteddfod Genedlaethol (a’r Urdd) wedi bod yn gefn cyson i’r datblygiad hwn. Enillodd sawl gwyddonydd balch ei phrif gystadlaethau – gan gynnwys Gwenallt Llwyd Ifan eleni. (Mae ei gyfrol “DNA” wrth erchwyn fy ngwely wrth imi ysgrifennu.)  Diolch i Andrew Evans, Aberystwyth, a’i dîm ar y pwyllgor G&Th am gynnal pethau yn wych eto eleni. Ond hoffwn ddiolch yn arbennig i un ohonynt yn neilltuol. Mae Elin Rhys (biocemegydd arall !) wedi ymdrechu yn ddiflino (ac yn aml yn ddi-ddiolch) am ddegawdau i ddod â gwyddoniaeth i sgriniau S4C. Mae olion ei gwaith a’i harbenigedd i’w gweld yn helaeth ym mhob cornel o arlwy gwyddoniaeth Eisteddfod Amgen 2021. Ac mi fyddant yno i’ch difyrru am fisoedd eto. Erbyn eich diwallu, bydd criw Tregaron yn barod amdanoch yn eu Pentref nhw !


Pynciau: Arlwy Gwyddonol yr Eisteddfod AmGen


Cyfeiriadau

Arlwy Gwyddonol Eisteddfod AmGen 2021:


<olaf nesaf>